Celyn Rose.

Mae Celyn Rose o Gaerffili, sydd wedi ei hysbrydoli gan ei chyflwr meddygol i ddilyn gyrfa fel meddyg, un cam yn nes at wireddu eu breuddwyd ar ôl ennill graddau A, A, B, mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg, gan ennill lle ym Mhrifysgol Lerpwl i astudio meddygaeth.

Fel rhywun sydd wedi’i geni gyda gennyn cario ffibrosis cystig, roedd gan Celyn Rose, y ddysgwraig 20 oed yng Ngholeg y Cymoedd, ddiddordeb mewn meddygaeth erioed ac fe’i symbylwyd gan ei phrofiadau iechyd ei hun i astudio’r pwnc.

Er nad yw’n dioddef o’r cyflwr ei hunan, mae cario’r gennyn yn golygu y gallai bod unrhyw blant a gaiff mewn perygl o’i ddatblygu. Gobaith Celyn ydy y bydd gyrfa feddygol yn ei galluogi i chwarae rôl mewn darganfod a datblygu triniaethau newydd ar gyfer cyflyrau fel ffibrosis cystig.

Bu bron iawn i’r ddysgwraig benderfynol gael lle mewn prifysgol y llynedd ond ni rwystrodd hynny hi rhag dilyn ei nod, ond yn hytrach gwnaeth y profiad hi yn fwy penderfynol nag erioed i lwyddo.

Yn flaenorol cafodd hi radd A mewn Mathemateg a Bagloriaeth Cymru, ond dychwelodd Celyn i’r coleg i ail-sefyll ei harholiadau mewn Bioleg a Chemeg a chafodd raddau gradd AB.

Dywedodd Celyn: “Er mod i’n cario gennyn ffibrosis cystig, dydy hynny ddim yn golygu mod i’n dioddef o’r cyflwr, ond mae’n golygu os byth caf i bartner sy’n cario’r un gennyn, byddai ein plentyn yn dioddef o’r cyflwr. Taniodd hyn fy niddordeb mewn geneteg a sut mae’r corff dynol yn gweithio a chefais fy ysbrydoli i seilio fy ngwaith ar gyfer Bagloriaeth Cymru ar y cyflwr.

“Mae’r maes meddygol yn datblygu’n barhaus; mae darganfyddiadau newydd i’w gwneud bob amser ac mae cymaint na wyddwn am y corff dynol o hyd ac, i mi ,mae hynny yn rhywbeth cyffrous.”

Mae Celyn wedi dewis astudio ym Mhrifysgol Lerpwl oherwydd natur hyblyg strwythur ei gwrs a’u dull ymarferol o fynd o’i chwmpas hi. Caiff gyfle i astudio dramor ar draws Ewrop, America a Canada, naill ai drwy 12 wythnos dewisol neu am flwyddyn gyfan.

Ychwanegodd: “Mae strwythur y cwrs yn Lerpwl wedi’i seilio ar achosion sy’n golygu y bydda i’n cael gweithio gydag eraill ar ffug achosion meddygol a gweithio allan y rhesymau a’r triniaethau ac mae hynny yn gweddu i fy arddull dysgu. Yn bendant, dw i am astudio dramor. Dw i wedi gweithio mor galed ac wedi goresgyn cymaint o rwystrau, dw i am fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle nawr.

Collais hyder pan na ches i le mewn prifysgol y llynedd a ches hi’n anodd gwylio fy ffrindiau yn mynd i ffwrdd i astudio ar eu cyrsiau a minnau’n gorfod ail-sefyll fy lefel A. Roed dewis aros yn y coleg yn benderfyniad anodd ond roeddwn i’n bendant mod i am astudio meddygaeth, felly dyna oedd y dewis iawn i mi. Ni faswn i wedi llwyddo heb help fy nhiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd.

“Mae Coleg y Cymoedd wedi bod drwy’r holl brofiad gyda fi bob cam o’r ffordd. Wir i chi roedd y tiwtoriaid yn wych a dw i mor ddiolchgar iddyn nhw am eu cymorth a’u cefnogaeth. Yn ystod adeg anodd iawn i mi pan effeithiwyd ar fy hunan-gred, ces gymorth gan fy nhiwtoriaid a dawelodd fy meddwl y byddwn i’n cyrraedd fy nod, ac roedden nhw’n gywir.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau