Mae'r unedau a gwmpesir fel a ganlyn: • Peirianneg Mathemateg 1 – 20 credyd • Dylunio a Gweithgynhyrchu – 20 credyd • Technegau Peirianneg Proffesiynol – 20 credyd • Gwyddor Fecanyddol 1 – 20 credyd • Systemau Mesur – 20 credyd • Thermohylifau 1 – 20 credyd
Mae Coleg y Cymoedd yn ystyried pob cais ar sail unigol sy’n golygu y gallen ni wneud cynnig ar sail cymwysterau, proffil personol a phrofiad. Mae cyfuniad o gymwysterau yn dderbyniol ac mae’n bosib bod cymwysterau eraill nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma hefyd yn dderbyniol. Cynnig Safon Uwch nodweddiadol – DD yn cynnwys Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth
Cynnig BTEC nodweddiadol – Diploma Estynedig BTEC - Teilyngdod Teilyngdod Teilyngdod neu Diploma BTEC - Teilyngdod Teilyngdod. Cynnig VRQ nodweddiadol – o leiaf Diploma Lefel 3 VRQ mewn disgyblaeth briodol gydag uned o Fathemateg wedi’i chynnwys. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad ac yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn pennu a oes angen unrhyw gymorth. Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gall olygu y byddwch yn cael mynediad at gwrs lefel uwch.
Byddwch yn cael eich asesu drwy nifer o ddulliau asesu fel gwaith ymarferol, ysgrifennu traethodau, gwaith portffolio ac asesiad wedi'i amseru ar y safle.
Ar ôl cwblhau'r cwrs HNC mewn Peirianneg Fecanyddol, anogir myfyrwyr i symud ymlaen i'r HND mewn Peirianneg Fecanyddol yma yng Ngholeg y Cymoedd. Mae myfyrwyr ar y cwrs HNC mewn Peirianneg Fecanyddol wedi cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar friffiau byw a lleoliadau gwaith, yn cynnwys: Axiom, Trafnidiaeth Cymru, GE Aviation, FSG, British Airways, Pullman Rail, y Bathdy Brenhinol, Ensinger, Nuaire, Waldon LTD, Kautex, Renishaw, Eriez Magnetics, Prysmian cables, General Dynamics, Sony a llawer o rai eraill.