Rhennir y cwrs yn unedau unigol, gan weithio tuag at gymhwyster Tystysgrif yn y Celfyddydau Perfformio. Mae'r cwrs yn amrywiol gyda nifer o unedau cyffrous fel; Cymryd rhan mewn Perfformiad, Cynhyrchu Delweddau ar gyfer Cynnyrch Cyfryngau, Recordio ac Addasu Deunydd ar gyfer Cynnyrch Cyfryngau, Ysgrifennu a Golygu ar gyfer Cynnyrch Cyfryngau, Dylunio a Chreu Cynnyrch Celf.
Ymhlith y cymwysterau ychwanegol mae’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Rhifedd ar lefel Mynediad 3.
Rhaid ichi fod yn gweithio ar Lefel Mynediad 2 mewn Llythrennedd a Rhifedd ac yn gweithio tuag at gymwysterau Mynediad 3.
Ar ôl ichi wneud cais, fe'ch gwahoddir i ddod i gyfweliad, a sefyll asesiad byr mewn llythrennedd a rhifedd, er mwyn pennu a oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch.
Bydd eich gwaith yn cael ei asesu drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys casgliad o unedau wedi'u cwblhau, portffolios ac arsylwadau ymarferol.