Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Llwybr Gofal Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)

Datblygwyd y cymhwyster ar gyfer unigolion 17 oed (a fydd yn 18 oed erbyn mis Chwefror y flwyddyn academaidd) neu'n hyn sy’n gweithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol, neu sy'n bwriadu gweithio ynddynt. Bydd yn galluogi dysgwyr i ymgeisio am gofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cymdeithasol mewn gofal cartref neu ofal preswyl ar yr amod eu bod yn cwrdd ag unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Mae’r cymhwyster hwn yn ofyniad ar gyfer ymarfer a osodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.


Yn ogystal â'r cwrs mae potensial ichi ymgysylltu â rhaglen hyfforddiant sefydlu Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn cynnwys codi a chario, iechyd a diogelwch, diogelu a gwerthoedd gofal cymdeithasol. Mae lleoliadau gwaith gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Rhondda Cynon Taf yn bosibilrwydd arall o ddewis y cwrs hwn, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ymarferol a rhoi eu dysgu yn ei gyd-destun. Ochr yn ochr â'r cymhwyster bydd disgwyl ichi astudio sgiliau, gall hyn gynnwys cyfle ail-sefyll TGAU Saesneg neu Fathemateg.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc. Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o:


• yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol • ymarfer effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol • llwybrau dilyniant i astudiaeth bellach neu gyflogaeth ym maes diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU Gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg. Gellir trafod cymwysterau cyfwerth eraill yn y cyfweliad.


Gwiriad DBS llwyddiannus a chais am wasanaeth diweddaru’r gwiriad DBS. Bydd gofyn i bob ymgeisydd lenwi “pro-fforma Addasrwydd ar gyfer Gofal”.

Asesiad

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr basio: • pedwar asesiad drwy gydol y cymhwyster wedi'u seilio ar senarios wedi'u gosod yn allanol a’u marcio yn y ganolfan. • un prawf amlddewis wedi’i osod a’i farcio’n allanol

Dilyniant Gyrfa

Gall cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus a 4 TGAU Gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, alluogi dysgwyr i symud ymlaen i'r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 neu symud ymlaen i gyflogaeth mewn gofal cartref neu breswyl.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:01F201NB
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Ymarferwyr meddygol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Seicolegwyr:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau