Ffarwelio â bwyty Llewellyn

Gwahoddwyd gwesteion o amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau i ‘godi gwydraid’ i gampws presennol Aberdâr; gan fod cynlluniau’n mynd rhagddynt i adael safle Ffordd Cwmdâr ac ail-leoli i’r campws newydd gwerth £ 22 miliwn yn Robertstown.

Bydd y campws newydd yn agor ei ddrysau ym mis Medi 2017 a bydd yn cynnwys y bwyty ‘Carriages’ newydd. Bydd y bwyty newydd yn cynnig cyfleustreau o’r radd flaenaf ac o safon diwydiant i ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo gwblhau eu hyfforddiant dan oruchwyliaeth agos tiwtoriaid arbenigol; a datblygu eu sgiliau proffesiynol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo yn y dyfodol.

Ers ei agoriad swyddogol fel Ystafell Llewellyn ym 1992, mae dysgwyr ar gampws wedi darparu bwyd o ansawdd i’r cyhoedd a nifer o sefydliadau sydd wedi mwynhau pryd o fwyd cyn eu cyfarfod.

Yn ystod yr wythnos, mwynhawd Te Prynhawn gan tua 50 o gwsmeriaid; yn arddangos yr amrywiaeth o ddanteithion cartref gan gynnwys amrywiaeth o frechdanau, cacennau taffi gludiog, mousse ffrwythau’r haf a phice ar y maen; ynghyd â gwydraid neu ddau o siampên i gynnig llwncdestun i’r campws.

Croesawodd Cyfarwyddwr y Campws, Mark Thomas, y gwesteion gan roi iddynt drosolwg byr o’r campws newydd. Rhoes ddiolch iddynt am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd ynghyd â sicrwydd y bydd croeso cynnes yn eu disgwyl pan fydd y campws newydd yn agor yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Roedd cynrychiolwyr o Glwb Rotari Aberdâr, Inner Wheel a Phrifysgol y Drydedd Oes. Manteisiodd y clybiau ar y cyfle i ddiolch i’r staff a dysgwyr y coleg am y croeso cynnes, cyfeillgar a dderbyniasant yn y bwyty a’r prydau blasus a weinwyd. Roeddent yn canmol y gwasanaeth cyffredinol ac yn edrych ymlaen at ymweld â’r bwyty newydd ar y campws newydd.

Bydd y campws newydd Aberdâr yn agor ym mis Medi 2017. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cymoedd.ac.uk/aberdare

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau