Jacob Jones

Mae ffisegydd o Bontypridd yn dathlu ei fod wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen ar ôl cael marc A* ymhob pwnc yn ei Lefel A.

Enillodd Jacob Jones, 18 oed, dysgwr yng Ngholeg y Cymoedd 4 A* mewn ffiseg, mathemateg, mathemateg pellach a chemeg, gan gadarnhau ei le i astudio ffiseg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ym mis Medi.

Er ei fod wedi bod yn academaidd, doedd e erioed yn ystyried ei fod yn ‘ddigon da’ i fynd i Rydychen nes iddo ennill graddau nodedig yn ei arholiadau UG.

Ac yntau’n benderfynol o gael lle yn Rhydychen, treuliodd Jacob yr haf y llynedd yn ychwanegu at ei ddatganiad personol drwy fynychu dwy ysgol haf preswyl o bedwar diwrnod  – un yn rhaglen yn ffocysu ar ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) a’r llall yn gynllun mwy ymarferol yn Rhydychen lle roedd yn byw ar y safle a mynychu darlithoedd fel myfyriwr israddedig. Cadarnhaodd y profiad ei ddymuniad i fynd i brifysgol fwyaf blaenllaw’r byd.

Roedd Jacob yn rhan o raglen Seren tra yn y coleg – cynllun Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gynorthwyo dysgwyr disgleiriaf ysgolion gwladol Cymru, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol, i wireddu eu potensial academaidd.

Drwy Seren, derbyniodd gyfarwyddyd a chanllawiau ar sut i ddrafftio datganiad personol ar gyfer y prifysgolion blaenllaw, cael syniad o sut beth fyddai astudio yn Rhydychen gan fyfyrwyr presennol y brifysgol a derbyn cymorth wedi’i deilwra i’w helpu i baratoi ar gyfer ei brawf mynediad ffiseg y brifysgol

Dywedodd: “Er i mi gael graddau TGAU da, do’n i ddim wedi meddwl mynd i Rydychen cyn hynny. Mae enw mor uchel ganddi, felly don i ddim yn credu fy mod i’n ddigon da i fynd yno. Ond, ar ôl derbyn fy nghanlyniadau UG, dechreuais ail-ystyried a sicrhaodd fy nhiwtoriaid yn y coleg mod i’n fwy nag abl. Ces fy annog ganddyn nhw i wneud cais a meddyliais ei bod yn werth rhoi cynnig arni.

“Fe wnaeth ennill lle ar ysgol haf UNIQ Rhydychen roi hwb i fy hunan hyder ac o’r mwynhad a ges i fe wnes i sylweddoli mai dyma’r lle roeddwn i am fod.

“Gweithiais mor galed i baratoi ar gyfer fy nghyfweliad a’r prawf mynediad ac fe wnaeth y cymorth ges i gan fy ngholeg a rhaglen Seren wahaniaeth mawr. Ond, do’n i ddim yn gallu credu mod i wedi cael lle gan mod i wedi cael trafferth gydag un o gwestiynau’r arholiad a meddwl bod dim gobaith i mi ar ôl hynny.

“Dw i nawr yn gyffrous i gychwyn yn y brifysgol. Dewisais Goleg yr Iesu gan ei fod yn cael ei alw yn ‘Goleg y Cymry’ – bydd symud i Rydychen yn newid mawr ond gobeithio bydd bod yno’n cynnig rhyw awgrym o fod gartref.”

Roedd gan Jacob ddawn at fathemateg a ffiseg erioed, brwdfrydedd a daniwyd drwy wylio fideo ar calcwlws pan oedd yn ifanc. Mae’n cofio cael ei wefreiddio gan y pwnc ac mae hynny’n parhau.

O edrych i’r dyfodol, mae Jacob yn agored ei feddwl am ei ddarpar yrfa ond mae ganddo ddiddordeb mewn gwneud rhywbeth yn gysylltiedig â ffiseg cwantwm.

Ychwanegodd: “Dw i am ddysgu popeth am y pwnc. Gobeithio cael gradd Meistr ac yn y pen draw PhD ac yna mynd i mewn i faes ymchwil efallai.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau