Mae Maia Thomas, 19 oed, o Ferthyr Tudful ar ei ffordd i Academi Italia Conti i gwblhau Tystysgrif AU mewn perfformio mewn theatr gerdd ar ôl sicrhau rhagoriaeth* yn y cwrs celfyddydau perfformio Lefel 3.
Gobaith Maia, a fu’n frwd dros berfformio erioed, ydy y bydd y cwrs blwyddyn llawn amser sy’n cynnig hyfforddiant canu, dawnsio ac actio yn gam cyntaf tuag at yrfa broffesiynol o fewn y diwydiant. Ar ôl cwblhau’r dystysgrif, mae’n anelu at fynd ymlaen i astudio am radd yn yr academi.
Dywedodd Maia: “Dw i wedi bod yn perfformio ers i mi fod yn bedair oed ac yn sylweddoli erioed mai ym maes y theatr roeddwn i am weithio. Mae’r holl ddiwydiant yn fy ysbrydoli ac, ar ôl gwneud TGAU mewn drama, gwyddwn mod i am barhau fy addysg ym maes perfformio.
“Rydw i’n gyffrous iawn i fynd i Italia Conti, a ddewisais oherwydd ei fod yn enwog am feithrin unigolion, gan roi’r gofod iddyn nhw wella eu hunain. Mae hyn yn rhywbeth sy’n bwysig i mi gan y bydd yn caniatáu i mi barhau i fod yn driw i mi fy hun yno.”