Dyfarnwyd gwobr fawreddog Cwpan yr Uchel Siryf i Jenna Claridge, 18 oed ac yn fyfyrwraig Lefel A, i’w dal am y flwyddyn. Cyflwynwyd dyfarniad uchaf y noson wobrwyo iddi gan Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun Michael, o flaen cynulleidfa o wahoddedigion enwog.
Mae noson Gwobrau Cymunedol Ieuenctid Uchel Siryf Morgannwg Ganol yn achlysur blynyddol, ac fe’i cynhaliwyd eleni yn adeilad Ortho Clinical Diagnostics, Felindre Meadows, Pencoed. Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith ardderchog a wneir gan gan bobl ifanc yn y gymuned.
Yn dilyn y croeso gan Matt West, Rheolwr Cyffredinol Ortho Clinical Diagnostics, cyhoeddwyd enwau’r enillwyr gan Rory McLaggan, Uchel Siryf Morgannwg Ganol.
Mewn cystadleuaeth gref o enwebiadau, dewiswyd Jenna’n orau o blith rhestr fer o bump yn y Categori i Unigolion. Roedd Jenna wedi ei henwebu gan Janice Watkins, Gweithwraig Ieuenctid gyda RhCT, oedd wedi disgrifio Jenna fel merch ifanc gyfrifol a mawr ei gofal.
Dim ond 13 mlwydd oed oedd Jenna pan ddechreuodd fod yn rhan o’r Gwasanaethau i Bobl Ifanc a bu’n hyrwyddo hawliau pobl ifanc yn y gymuned, gan ymgynghori â nhw ac oedolion am y ddarpariaeth oedd ar gael yn ei hardal.
Fe berswadiodd bedwar aelod o’r Fforwm Ieuenctid i fod yn rhan o’r prosiect Ein Hawliau” sydd wedi codi proffil pobl ifanc yn ei hardal, a rhoi llais iddyn nhw i gynnig adborth i’r Cabinet yng Ngyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ar faterion sy’n peri pryder iddyn nhw. O ganlyniad i’w hymrwymiad i hyn, yn 2013 etholwyd Jenna yn Faer Ieuenctid Rhondda Cynon Taf.
Wedi iddi dderbyn ei gwobrau, meddai Jenna: “Rydw i’n hynod falch o ennill y gwobrau, yn arbennig Cwpan yr Uchel Siryf. Mae cymaint o unigolion a phrosiectau gwych yma heno, rydwi i’n ddiolchgar iawn i Jan Watkins am fy enwebu.”
ffotograffydd: Keith. E. Morgan
“