Cafodd myfyrwyr y cymoedd sydd am weithio i un o nifer o fusnesau deinamig yng Nghymru sy’n cael eu rhedeg gan ferched gyfle euraid i arddanogs eu talent i ddarpar gyflogwyr yr wythnos hon.
Dangosodd myfyrwyr Coleg y Cymoedd, un o sefydliadau addysg bellach mwyaf Cymru, eu sgiliau mewn nifer o wahanol feysydd i gannoedd o ferched oedd wedi ymgynnull ar gampws newydd gwerth £43 miliwn y coleg yn Nantgarw ar gyfer cynhadledd flaenllaw ‘Superwoman’.
Enwyd y digwyddiad blynyddol hwn gan ei sylfaenydd, Bethan Darwin, cyfreithwraig oedd am gael cydnabyddiaeth i’r modd y mae merched o entrepreurwyr yn ymdopi gyda’r gwaith o redeg busnes a galwadau magu teulu.
Gan arddangos eu sgiliau mewn nifer o feysydd gan gynnwys arlwyo, rheoli digwyddiadau, ffotograffiaeth a chelf a chrefft, croesawodd myfyrwyr Coleg y Cymoedd eu gwesteion i achlysur sydd, erbyn hyn, yn un o’r digwyddiadau pwysig yng nghalendr byd busnes Cymru
Rhannodd y siaradwyr gwadd eu profiad o drefnu agweddau o’u bywyd. Yn eu plith roedd Sian Gunney o Grŵp Peacock Media, cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata, dynes busnes brofiadol a anogodd y gwesteion i ‘ddilyn eich breuddwyd’.
Siaradwraig wadd arall oedd Kirsty Manning o Cnwd, busnes bwydydd chwaethus, a soniodd am sut mae’n ymdopi â rhedeg dau fusnes a magu teulu ifanc ar yr un pryd; a Dilys Price, sylfaenydd Touch Trust, elusen sy’n cynnig rhaglenni symud creadigol i unigolion ag anawsterau dysgu ac anableddau eraill. Dathlodd Dilys eu phenblwydd yn 80 oed drwy neidio o awyren i godi arian ar gyfer Touch Trust.
Dywedodd Judith Evans, pennaeth a phrif weithredwraig Coleg y Cymoedd; “Mae croesawu cynhadledd ‘Superwoman’ yma yn wych i’n myfyrwyr oherwydd eu bod yn gallu arddangos popeth y maen nhw wedi’i ddysgu hyd yn hyn i gannoedd o ferched busnes sy’n ddarpar gyflogwyr. Mae cael hyfforddiant go wir nid yn unig yn ddull effeithiol o roi eu sgiliau ar waith ond hefyd gall eu gwneud yn llawer mwy deniadol wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd ym myd gwaith.â€
Dywedodd Bethan: “Mae ein haelodau a’n cynhadledd yn aml-orchwylio. Mae’n ddigwyddiad rhwydweithio lle gallwch ddysgu o brofiad merched ysbrydoledig, codi arian at elusen a siopa drwy ymweld â’r stondinau. Mae digwyddiad ‘Superwoman’ yn ymwybodol iawn o’r gymuned ac rydyn ni wrth ein bodd yn cynorthwyo a chael ein cynorthwyo gan y coleg a’i myfyrwyr.â€
Yn ychwanegol i’r gynhadledd flynyddol ym mis Hydref, mae’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio llai drwy gydol y flwyddyn ac yn codi arian ar gyfer elusennau – dros £41,000 ers ei sefydlu yn 2005. Y gost ydy £35 a’r arian net yn cael ei roi i ‘Valleys Kids’, elusen sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yng Nghymoedd y De a Touch Trust.
Lansiwyd Coleg y Cymoedd yn ffurfiol fis diwethaf gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a phryd hynny pwysleisiodd yr angen am gysylltiadau gwaith agosach rhwng sefydliadau addysg a diwydiant er lles economi Cymru.
Mae’r coleg a grewyd drwy uno Coleg Morgannwg a Choleg Ystrad Mynach yn gwasanaethu dros 25,000 o fyfyrwyr sy’n dod o ganol ardal ddiwydiannol draddodiadol Cymru ym mwrdeistrefi Caerffili a Rhondda Cynon Tâf a’r ardaloedd cyfagos. Mae llawer o’r myfyrwyr yn brentisiaid a hyfforddai o amrywiaeth eang o fusnesau ar draws y cymoedd ac mae’r coleg hefyd yn darparu’r dewis mwyaf o bynciau Lefel A ar un safle i dros 600 o ddysgwyr,.
Gyda throsiant blynyddol o dros £42 miliwn, mae 1,000 o staff yn gweithio dros bum campws Coleg y Cymoedd – Aberdâr, Nantgarw, Rhondda, Rhymni ac Ystrad Mynach.
Mae’r holl ddarpariaeth addysgol ar draws pum campws Coleg y Cymoedd yn parhau ar gael o fis Medi 2013, gan ddarparu un o’r ystodau ehangaf o ddewis o bynciau yn Nghymru ar gyfer dysgwyr.