Mae carfan gyntaf yr Academi Elit Pêl-droed a gynigir mewn partneriaeth â Chymdeithas Pêl-droed Cymru ac a leolir ar gampws Ystrad Mynach yn dathlu llwyddiant ar lefel genedlaethol.
Mae dysgwyr sydd wedi ymuno â’r Academi o bob cwr o’r wlad yn dathlu’r cyfle i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol. Ochr yn ochr â’u hyfforddiant, sydd o’r radd flaenaf, mae’r dysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol chwaraeon neu Lefel A.
Mae pum aelod o’r academi wedi cynrychioli eu gwlad y mis hwn yng nghystadleuaeth i Ferched Dan 19 oed mewn twrnameint yn erbyn Gwlad Belg, Croatia a Kazakhstan i gymhwyso yn nghystadleuaeth Ewrop.
Bydd dwy o’n dysgwyr hefyd yn rhan o’r sgwad Bêl–droed Merched o dan 17 a fydd yn mynd i wersyll hyfforddi rhyngwladol yr wythnos hon. Mae Chloe Chivers a Shaunna Jenkins yn gobeithio y byddan nhw’n cael eu dewis i gynrychioli eu gwlad mewn twrnameint cymhwyso yn Hwngari ym mis Hydref.
Dywedodd Chloe Chivers, 16 oed o Abertileri: “Rydyn ni’n ffodus yn y coleg i fedru astudio bob bore a hyfforddi bob prynhawn. Mae’n anrhydedd fawr iawn i fynd i ffwrdd gyda thîm Cymru dan 17 oed ac mae’r coleg wedi bod mor gefnogol.â€
Ychwanegodd Shaunna Jenkins 16 oed o Aberaeron: “Mae bod yn aelod o’r Academi Elit eisoes wedi’n helpu ni i wella a deall yr hyn sydd rhaid ei wneud i fod yn beldroedwyr o’r radd flaenaf. Gobeithio y gwnawn fynd o nerth i nerth oherwydd ein nod ydy chwarae dros dîm hÅ·n Cymru yn y dyfodol.â€
Mae dysgwyr Academi Elit Pêl-droed yn elwa o hyfforddiant ar adnoddau eang Canolfan Ragoriaeth Chwaraeon Caerffili sydd ger campws Ystrad Mynach.
Mae Nia Jones, darlithydd yn yr Academi Pêl-droed wedi chwarae dros Gymru yn rhyngwladol ddwywaith, yn cynrychioli ei gwlad mewn timoedd pêl-droed a phêl-rwyd Merched. Dywedodd: “Fe gymerodd hi bythefnos i’r merched addasu i’r math o newid yn eu ffordd o fyw yr ydyn ni’n ei ddisgwyl gan yr athletwyr ifanc addawol hyn, ond mae’n wych gweld pa mor dda maen nhw’n cymryd ato ac yn datblygu. Maen nhw’n gweithio’n galed iawn yn yr ystafell ddosbarth ac ar y maes chwarae ac mae’r rhai sydd wedi’u dewis i chwarae’n rhyngwladol yn ei haeddu.â€
Ei chyd-ddarlithydd Clare O’Sullivan hefyd ydy hyfforddwraig tîm pêl-droed y Merched Dan 19 oed. Wrth sôn am lwyddiant carfan gyntaf yr Academi Pêl-droed Elit, dywedodd: “Gobeithio bod yr Academi hwn yn gam arall ymlaen i ferched a phêl-droed merched yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld tîm Dynion Cymru yn cymhwyso ar gyfer twrnameint pwysig, ac o weithio’n agos gyda’r merched hyn yn yr academi a gyda grwpiau ifancach o ran oed, dw i wir yn credu bod yna dalent yn datblygu i’n helpu ninnau wneud yr un peth yn y dyfodol agos.â€
Mae campws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd hefyd wedi sefydlu Academi Rygbi’r Gynghrair lle mae dysgwyr yn derbyn hyfforddiant ar gyfer twrnameintiau pwysig.