Mae Coleg y Cymoedd ymhlith cyd-enillwyr gwobr Y Cyngor Prydeinig am helpu i wella bywydau pobl ifanc ar ymylon cymdeithas yn y DU a thramor
Derbyniodd y Coleg Wobr Partneriaeth Newydd y Cyngor Prydeinig ar y cyd â Choleg Gwent, Coleg West Lothian a mudiadau ieuenctid tramor am ei ymdrech i symud pethau sy’n rhwystro pobl ifanc rhag cael gwaith adref a thramor yng Nghymru, Yr Alban a Morocco.
Yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a’r Alban, mae’r bartneriaeth wedi newid bywydau pobl ifanc agored i niwed yn Morocco – gwlad a welodd gynnydd mawr yn nifer y bobl fregus sydd yn cymryd rhan mewn addysg dechnegol a galwedigaethol.
Datblygodd y partneriaid ystod o adnoddau dysgu rhyngweithiol ac maen nhw eisoes wedi recriwtio dros 100 o ddysgwyr agored i niwed i fod yn rhan o raglenni cyflogadwyedd.
Casglodd partneriaid y prosiect y wobr yng nghynhadledd y Cyngor Prydeinig yn Hanoi, Fietnam.
Dywedodd Karen James, Cyfarwyddwr Campws yng Ngholeg y Cymoedd: “Bu’n brofiad rhagorol i staff Coleg y Cymoedd gydweithio gyda’r Cyngor Prydeinig, Bayti ac AIDA. Mae wedi bod yn amheuthun gallu helpu plant a staff o wlad a diwylliant arall. Fodd bynnag, mae llawer o’r problemau’n debyg i rai De Cymru. Gobeithio bydd y bartneriaeth yn parhau.â€
Mae pobl o gefndiroedd bregus yn aml heb sgiliau a chefnogaeth i allu cael swyddi tymor hir. Ym Morocco, mae’r boblogaeth yn cynnwys carcharorion, rhai wedi gadael yr ysgolion cyn pryd, rhai sy’n anabl a rhai’n derbyn cymorth gan fudiad dyngarol ‘National Initiative for Human Development’.
Nod y prosiect, lansiwyd ym Mehefin 2014, ydy newid agwedd cyflogwyr at y grwpiau hyn ac i ddatblygu’r sgiliau meddal a sgiliau byw ar gyfer y bobl ifanc eu hunain. Gweledigaeth hir-dymor y prosiect ydy ailadrodd y dull newydd hwn ar draws Morocco i helpu pobl ifnac sy’n chwilio am swyddi.
Roedd y dull newydd oedd yn cael ei dreilau gan y bartneriaeth yn cynnwys hyfforddiant technegol, cymorth bugeiliol ac ymglymu cyflogwyr i sicrhau bydd y bobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu eu dyfodol.
Swyddogaeth Coleg y Cymoedd ym mhrosiect y Cyngor Prydeinig oedd rhannu eu harbenigedd ym maes gweithio gyda phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETS) gan ganolbwyntio ar y dysgwyr a chynnig sgiliau gwerthfawr drwy hyfforddiant.
Mae Coleg y Cymoedd yn rhannu’r wobr gyda’u partneriaid yn y prosiect o Goleg Gwent, Coleg West Lothian, AIDA, elusen arbenigol ym maes datblygiad addysg a hawliau dynol ar gyfer pobl ifanc, ynghyd â Bayti, mudiad o wlad Morocco sy’n gweithio gyda pobl ifanc agored i niwed.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen Y Cyngor Prydeinig i ddatblygu sgiliau ac addysg alwedigaethol, ac mae’n cynnig cyfle i rai sy’n cael eu diystyrru fel arfer gan gyflogwyr i dderbyn hyfforddiant a dysgu sgiliau gwerthfawr.