Anrhydedd y DU i beirianwyr coleg o Gymru

Mae myfyrwraig 19 oed o Ystrad, Rhondda, wedi ennill ffeinal Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ym maes Gofal, fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru i hyrwyddo lefelau sgiliau ar hyd a lled Cymru.

Enillodd Natasha Hallett, myfyrwraig o Goleg y Cymoedd, y wobr gyntaf yn ei chystadleuaeth sgiliau gyntaf erioed yn erbyn myfyrwyr o golegau drwy Gymru gyfan, gan gynnwys Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Gŵyr ac Abertawe.

Roedd disgwyl i’r rhai oedd yn y rownd derfynol gyflawni heriau gofal oedd yn golygu dwy dasg chwarae rôl; edrych ar ôl gwr ifanc ag awtistiaeth a gwraig oedrannus â dementia yn ogystal â chwis ar-lein.

Roedd rhaid i’r cystadleuwyr arddangos eu sgiliau gofal, yn y ddwy sefyllfa, gan roi ystyriaeth i urddas defnyddwyr y gwasanaeth a’u parchu. Dyfarnwyd marciau am eu sgiliau, arferion gweithio’n ddiogel a gwybodaeth sylfaenol.

Mae Natasha, sy’n astudio ar gyfer ei Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Bagloriaeth Cymru, yn bwriadu mynd ymlaen i wneud Lefel 3 ar Gampws Rhondda, Coleg y Cymoedd. Wedi’r gystadleuaeth dywedodd Natasha ei bod yn ymfalchïo yn ei champ: Cefais fy newis gan fy narlithydd i fod yn rhan o’r gystadleuaeth ond feddyliais i erioed y bydden i’n ennill. Roedd yn dreth ar y nerfau ond bu fu mhrofiad o weithio yng Nghartref Gofal Pentre yn fuddiol a chefais gyfle i ddangos i’r beirniad beth allwn i ei gyflawni.

“Roedd y tasgua’n heriol ond cefais ddiwrnod gwych a chael adborth cefnogol, a rydwi i’n edrych ymlaen am ragor o gystadleuthau yn y dyfodol.”

Cynlluniwyd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu llawn sgiliau a’i nodi ydy rhoi hwb i lefel uchel o sgiliau yng Nghymru. Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal 32 Cystadleuaeth Sgiliau yn ystod 2014, mewn ystod o sectorau, o waith saer i drin gwallt, o waith trin ceir i greu cacennau.

Nawr bydd Natasha yn mynd ymlaen i gynrychioli Coleg y Cymoedd yng nghystadleuaeth Gofal ‘WorldSkills UK’ gyda’r nod o gynrychioli Tîm Cymru yn y Sioe Sgiliau am eleni, ac fe allen nhw fod yn gymwys i gystadlu am le yn y tîm i gynrychioli’r DU yn ‘WorldSkills 2015’. Cynhelir cystadleuaeth ryngwladol ‘WorldSkills’ bob dwy flynedd mewn dinasoedd o gwmpas y byd a dyma’r gystadleuaeth ryngwladol fwyaf yn y byd ym maes sgiliau.

Fel yr eglurodd Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Hyrwyddwr Cymru dros ‘WorldSkills’, “Mae yna amrediad o fanteision, nid yn unig i’r dysgwyr eu hunain, ond hefyd i’r colegau a’r cyflogwry sy’n cymryd rhan.

“Mae cystadleuthau ‘WorldSkills UK’ yn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion i fod yn uchelgeisiol wrth ddilyn eu sgiliau i’r safonau uchaf ac wrth roi cyfle i’r dysgwyr i gystadlu yn erbyn goreuon eu maes ar hyd a lled Cymru.

“Mae’r coleg a’r darparwyr hyfforddiant sy’n anfon myfyrwyr i’r gystadleuaeth hefyd yn cael manteision oherwydd y gallan nhw feincnodi eu perfformiad yn erbyn sefydliadau eraill a datblygu’r arferion gorau, tra bod y cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn gallu arddangos sgiliau o safon byd-eang ymhlith eu staff.”

Wrth i’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates AC, longyfarch Natasha ar ei llwyddiant, meddai: “Drwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, rydyn ni’n anelu i ganfod yr hyfforddai gyda’r sgiliau gorau mewn ystod eang o alwedigaethau a sectorau.

“Mae dwsinau o golegau, y Cynghorau Sector Sgiliau a darparwyr dysg seiledig ar waith drwy Gymru gyfan eisoes yn rhan o’r prosiect ond rydyn ni’n awyddus i annog rhagor o fusnesau Cymreig i fod yn rhan ac i hyrwyddo’r math hwn o gystadleuaeth sgiliau. I gyflogwyr, mae’r cystadleuthau’n codi safon prentisiaeth ac addysg galwedigaethol, yn ogystal ag ysgogi cyflogai i ennill llwyddiant.

“Mae gennym ystod o sgiliau amrywiol yng Nghymru a dylid anrhydeddu’r rhain i gyd. Mae’n galw am waith caled, penderfyniad a lefel uchel o sgiliau i gystadlu yn erbyn prentisiaid a dysgwyr mwyaf talentog Cymru. Dymunwn bob lwc i Natasha a’r lleill yn y ffeinal, a’r enillwyr, nid yn unig yn y rownd nesaf, ond hefyd yn eu gyrfaoedd wedi hynny.”

Ffotograffydd: Keith Freeburn

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau