Anrhydeddu Tiwtor Busnes yn y Gwobrau Addysgu Cenedlaethol

Mae tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd wedi cael ei henwebu fel ‘arweinydd sy’n ysbrydoli’ mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.

Anrhydeddwyd Kim Purnell, Darlithydd ar y cwrs Busnes yng Ngholeg y Cymoedd gyda’r teitl o Ddarlithydd AB y Flwyddyn yn Seremoni Wobrwyon Addysgu Ysbrydoledig a gynhaliwyd yng Nghaerdydd Ddydd Gwener, Mehefin 19.

Mae’r gwobrau, a gaiff eu trefnu gan y cwmni hyfforddi New Directions, yn talu teyrnged i staff y gymuned addysgu led led Cymru. Anrhydeddwyd 11 o unigolion gan gydweithwyr, rhieni a disgyblion gyda thros 150 o enwebiadau.

Mae Kim Purnell, darlithydd AB y Flwyddyn, wedi gweithio yng Ngholeg y Cymoedd yn Nhonypandy dros saith mlynedd fel darlithydd Busnes. Enwebwyd hi am eu hymroddiad i’w disgyblion a’r cyfleoedd mae’n eu cynnig iddyn nhw. Y pum gair a ddefnyddiwyd i’w disgrifio fel model rôl oedd: ‘meithrin, entrepreuraidd, teyrngar a thosturiol’.

Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Kim: R’on i’n hynod falch i gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon. Hoffwn ddiolch i fy nheulu, y tim Busnes BTEC a Jayne MacGregor, fel rheolwr llinell. Heb y bobl hyn yn fy nghefnogi, fy nghynorthwyo a’m hannog, fyddwn i ddim yn gallu cyflawni’r hyn rydwi’n ei wneud.”

Dywedodd Jayne MacGregor, Pennaeth yr Ysgol Fusnes yng Nhholeg y Cymoedd a enwebodd Kim: “Fe naethon ni fwynhau’r noson yn fawr iawn ac wrth ein bodd bod Kim wedi ennill. Mae’n wobr haeddiannol gan fod Kim yn teithio’r ail filltir i helpu ei dysgwyr, ac wedi cael dylanwad ar gymaint ohonyn nhw.”

Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty Mercure Holland yng Nghaerdydd Ddydd Gwener, 10 Mehefin 2015. Mae’r achlysur a gaiff ei threfnu gan y cwmni recriwtio a hyfforddi New Directions Education yn talu teyrnged i dros 30 o aelodau o’r gymuned addysg oedd ar y rhestr fer a gafodd eu henwebu gan eu cydweithwyr, eu cymheiriad, rhieni a myfyrwyr.

Cylfwynydd y noson oedd Chris Corcoran, y darlledwr, y digrifwr ac ar un adeg a fu’n athro yn Ysgol Gyfun y Barri. Cafwyd pryd tri chwrs a difyrrwyd y gwesteion gan gôr Ysgol Gyfun Treorci, enillwyr cystadleuaeth y ‘Choir Factor’. Fe ganon nhw eu dehongliad o Pompii Bastille a threfniant o Chasing Cars and Run gan Snow Patrol.

Gwobrwywyd unarddeg o bobl broffesiynol o ysgolion a cholegau ledled Cymru gyda’r Gwobrau am Addysgu Ysbrydoledig.

Dywedodd Gary Williams, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes New Directions, darparwyr recriwtio a hyfforddiant i’r sector addysg: “Bob blwyddyn rydyn ni’n dod at ein gilydd i ddathlu cyfraniad nodedig ein cymheiriaid ar draws y gymuned arbennig iawn hon. Mae darllen pob un o’r enwebiadau yn gwneud i rywun deimlo’n ostyngedig iawn; mae’r unigolion hyn yn llunio dyfodol ein pobl ifanc a helpu i wneud Cymru yn lle gwell. Mae pob un o’r enillwyr wedi ychwanegu at gynaliadwyedd ein gwlad am flynyddoedd i ddod.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau