Mae arlunydd amlwg o’r Rhondda yn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau o goleg yn Ne Cymru i gefnogi eu breuddwydion artistig a’u helpu i ddatblygu cyfres o weithiau celf cyhoeddus sy’n dathlu Cymru a’i diwylliant.
Mae’r artist a’r cyflwynydd teledu o Dreorci, Siôn Tomos Owen, a fu’n gyflwynydd ar gyfres ‘Pobol y Rhondda’ ar S4C, yn cynnal nifer o weithdai dwyieithog gyda dysgwyr celf o Goleg y Cymoedd ac yn gweithio gyda’r darpar artistiaid i greu eu campweithiau eu hunain.
Mae dysgwyr ar y rhaglen, sydd i gyd yn astudio Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, wedi datblygu eu murluniau eu hunain sy’n cael eu harddangos ar adeiladau’r coleg ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd.
Yn ystod y gweithdai, clywodd y dysgwyr gan Siôn am sut i drosi eu syniadau am yr hyn yr oedd Cymru a’r Gymraeg yn ei olygu iddyn nhw yn gelfyddyd, a sut i wneud hynny’n greadigol, heb droi at ystrydebau.
Noddwyd y prosiect gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel rhan o gynllun ehangach i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws colegau Addysg Bellach.
Wrth drafod y prosiect, dywedodd Siôn: “Mae’r profiad o weithio ar ddatblygu murluniau gyda’r dysgwyr hyn wedi bod yn ddiddorol ac yn heriol, sef fy hoff fath i o brosiect! Mae’r syniadau mae’r dysgwyr wedi’u datblygu o’r gweithdai wedi bod yn drawiadol gan eu bod wedi meddwl yn greadigol am beth a phwy ydy’r Gymru gyfoes a sut i gyfleu hyn yn artistig, gan ystyried sut i ymgorffori’r Gymraeg a’r Saesneg.”
Bydd y ddau furlun, sy’n cynnwys hunanbortread o bob unigolyn sydd wedi gweithio ar y prosiect, yn cael eu harddangos mewn man amlwg ar Gampws Nantgarw.
Dywedodd Jessica Moss, darlithydd ar y Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydw i mor falch o’r dysgwyr a’r ymroddiad y maen nhw wedi’i ddangos i’r prosiect cydweithredol unigryw hwn gyda Siôn. Maen nhw i gyd wedi gweithio’n galed iawn, gan ddysgu sgiliau a thechnegau newydd, a bydd eu gwaith yn ychwanegiad gwych i’r campws yn ogystal ag ar gyfer eu portffolios personol eu hunain.”
Ychwanegodd Rheolwr y Gymraeg, Coleg y Cymoedd, Lois Roberts, a fu’n cydlynu’r prosiect: “Pan ges i’r syniad cychwynnol o gael dysgwyr i greu murluniau i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, roeddwn i’n disgwyl gweld llawer o Gennin Pedr, telynau a symbolau Cymreig amlwg eraill, ond o dan gyfarwyddyd Siôn, mae’r dysgwyr wedi creu darluniau sydd wir wedi mynd at wraidd yr hyn y mae bod yn Gymro neu Gymraes yn ei olygu iddyn nhw, fel pobl ifanc sy’n byw yn y cymoedd.
“Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ariannu’r prosiect pwysig hwn ac i Siôn Tomos Owen am ddarparu’r profiad amhrisiadwy hwn i’n dysgwyr”.
Yn dilyn llwyddiant y prosiect cychwynnol hwn, mae Siôn bellach ar fin ymweld â champws Rhondda Coleg y Cymoedd i gyflwyno gweithdai i’r dysgwyr Sylfaen a chreu murlun arall ar gyfer bwyty Glofa 19 Campws Cwm Rhondda.