Breuddwyd myfyrwyr Coleg y Cymoedd yn ‘esblygu’

Mae dwy ddysgwraig o ardal Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd rownd derfynol gornest sgiliau trin gwallt bwysicaf y DU.

Dyfarnwyd Bethan Walters ac Ashleigh Simmons, dwy sy’n ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd, yn gyntaf a thrydydd yn rownd derfynol Cymru gynhaliwyd yng Ngholeg Sir Gâr, gan roi cyfle iddyn nhw fod ymhlith 15 arall o bob cwr o’r DU i gystadlu yn y ‘WorldSkills UK Final’ sydd yn digwydd y mis nesaf yng nghanolfan NEC yn Birmingham.

Ar ôl cyrraedd y ffeinal o blith 1000 o gystadleuwyr, mae’r ddwy ferch nawr yn paratoi ar gyfer yr ornest dri diwrnod, wedi ei thefnu gan gwmni L’Oréal Professional Product”.

Bydd y gystadleuaeth yn golygu 3 rownd dros y tri diwrnod, yn cynnwys creu steiliau i ferched a dynion, safon y toriad, y lliw a’r gorffeniad a hefyd ailgreu steil o ddarlun, i sicrhau bydd ganddyn nhw’r prif sgiliau i fod yn gymwys i drin gwalltiau.

Os byddan nhw ymhlith y tri uchaf, bydd y merched yn ennill eu lle fel cynrychiolwyr y DU yng ngornest ‘WorldSkills’ yn Abu Dhabi, 2017.

Bu Bethan, 19 o Ffynnon Taf, yn trafod yr ornest sydd o’i blaen: “Allwn i ddim credu’r peth pan ddyfarnwyd fi’n gyntaf yn y ffeinal rhanbarthol, fu bron i mi ffaelu credu pan glywais y beirniad yn galw fy enw! Rwy’n wir nerfus am y rownd derfynol ym mis Tachwedd ond rwyf wedi bod yn ymarfer cryn dipyn gyda fy nhiwtor, Ann Hopkin, er mwyn darparu fy hunan.”

Yn ôl Ashleigh, 18 o Drelewis, sy’n gobeithio ryw ddydd cael gwaith yn trin gwalltiu ar longau mordeithio: “Rydw i wedi cystadlu mewn 5 gornest cyn hyn, ond dim byd mor fawr ag un ‘WorldSkills’. Mae’n brawf ar eich nerfau ond rydw i wedi cael cefnogaeth wych gan fy nhiwtor coleg, David Bassett.”

Mae gan ‘WorldSkills UK’ swyddogaeth allweddol wrth gynyddu hyder y dysgwyr ac ysbrydoli pobl ifanc i fentro i fyd addysg bellach, sgiliau a phrentisiaethau.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod falch o Bethan ac Ashleigh am ddod yn gyntaf a thrydydd yng nhystadleuaeth rhanbarth Cymu. Mae ganddyn nhw’r sgiliau, ymroddiad a’r hyder i fod yn gystadleuwyr brwd yn rownd y DU a rydyn ni’n dymuno’n dda iawn iddyn nhw yn y ffeinal pan ddaw hi.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau