Breuddwydion tri o ddysgwyr busnes Coleg y Cymoedd yn cael eu gwireddu, diolch i raglen entrepreneuriaeth

Mae tri o ddysgwyr Coleg y Cymoedd un cam yn nes at wireddu eu breuddwydion busnes ar ôl sicrhau eu lle ar raglen Tafflab eleni – prosiect penodol i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru i sefydlu eu cwmnïau eu hunain.

Dewiswyd Finn Johnson-Denny, (16), Dawn Thomas, (46) a Dewi Thomas, (19) o garfan drawiadol i gael lle ar y rhaglen. Byddan nhw nawr yn gweithio’n uniongyrchol gyda mentoriaid busnes ar ôl derbyn grant ariannol i lansio eu busnesau a throi eu syniadau’n realiti.

Wedi’i sefydlu yn 2014, mae prosiect Tafflab yn gweithio i gynorthwyo’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid o dri choleg AB yng Nghymoedd y De – Coleg y Cymoedd, Coleg Merthyr a Choleg Gwent – i sefydlu eu busnesau eu hunain a’u rhedeg yn llwyddiannus. Mae’r mentoriaid ar y rhaglen yn entrepreneuriaid llwyddiannus neu’n arweinwyr busnes a dewisir uchafswm o dri myfyriwr o bob coleg ar gyfer y cynllun yn dilyn proses gystadleuol fewnol bob blwyddyn pan fydd y dysgwyr yn cyflwyno’u syniadau busnes a chymryd rhan mewn cyfweliadau.

Ynghyd â chyfarfodydd mentora unigol mynych, bydd y dysgwyr hefyd yn mynychu tri seminar grŵp drwy gydol y rhaglen flwyddyn o hyd a fydd yn delio â phynciau megis brandio, marchnata a chyllid. Dan arweiniad pobl fusnes blaengar a chyn fyfyrwyr Tafflab, lluniwyd y sesiynau er mwyn helpu i gyfoethogi eu dealltwriaeth o gynllunio a sefydlu busnes.

Finn Johnson-Denny, dysgwr Busnes Lefel ydy un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen a bydd nawr yn cychwyn ei gwmni dylunio a rheoli gwefan, FJD Design & Management.  

Dywedodd: “Darparodd Tafflab nid yn unig y cyllid a fydd yn amhrisiadwy i’m helpu i gychwyn fy musnes ond hefyd ces fy mentora gan bobl wych oedd yn meddu ar ddegawdau o brofiad busnes.

“Galluogodd eu cymorth i mi ddeall elfennau allweddol cynllunio busnes ac mae wedi cynyddu fy hyder mewn meysydd sydd yn llai cyfarwydd i mi. Roeddwn i eisoes wedi eisoes bod yn masnachu am ychydig o fisoedd cyn i mi ymuno â rhaglen Tafflab, a chyflymodd  fy nghynnydd i’r graddau na fyddai wedi bod yn bosibl hebddo.”

Hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen mae Dewi Thomas, dysgwr Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Lefel 3 sy’n cael ei gynorthwyo i sefydlu ei fusnes o uwch gylchynu celfi, a Dawn Thomas, dysgwraig Adweitheg Lefel 3 a’r un tu ôl i Mind & Body Consultancy – cwmni gwasanaethau holistaidd a gwell iechyd sy’n cynnig therapi holistaidd ac adweitheg.

Wrth drafod y rhaglen, dywed Dewi: “Mae’r mentora a gefais drwy Tafflab wedi fy helpu i flaenoriaethu a chanolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf o ran sefydlu a rhedeg busnes. Mae wedi rhoi’r sgiliau rydw i eu hangen i ddatblygu fy syniad ymhellach i fod yn gwmni llwyddiannus.”

Ychwanegodd Dawn: “Mae bod yn rhan o’r rhaglen hon wedi rhoi’r cyfle i mi gysylltu ag aelodau blaenorol o garfan Tafflab sy’n deall fy safbwynt i, gan iddyn nhw fod drwy’r cyfan eu hunain. Mae eu mewnwelediadau a’u profiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae wedi bod yn wych gweld eu positifrwydd a’u cefnogaeth gan eu bod wedi hyrwyddo fy musnesau newydd.”

Yn ôl Prif Weithredwr Tafflab, Rodric Ashley, sydd wedi bod yn gweithio fel mentor gyda Tafflab ers 2015 a chymryd yr awenau gyda’r gwaith o gydlynu’r rhaglen oddi wrth y sylfaenydd Dr. Kathy Seddon yn Haf 2022: “Mae’n gyffrous iawn gweld cymaint o ddysgwyr creadigol a brwdfrydig yn dod trwy raglen Tafflab gyda chymaint o ddiddordeb mewn entrepreneuriaeth a rheolaeth busnes.

“Mae’r rhaglen yn caniatáu i ddarpar berchnogion busnes ddatblygu o ran cryfder, hyder, a statws, trwy fentora eithriadol â phobl fusnes profiadol a llwyddiannus. Rwy’n edrych ymlaen i weld Finn, Dawn, a Dewi yn tyfu eu busnesau a’u sgiliau dros y misoedd nesaf.”

Mae rhaglen Tafflab yn rhaglen flynyddol, gyda cheisiadau yn agor bob mis Tachwedd. Gall dysgwyr wneud cais yn ystod unrhyw gam yn natblygiad eu busnes, boed hynny’n syniad cychwynnol neu’n fusnes cyfredol a chwbl weithredol. Am ragor o wybodaeth, ewch fan hyn: https://tafflab.org/ 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau