CAERDAV YN LANSIO RHAGLEN PRENTISIAETHAU CYNNAL A CHADW AWYRENNAU 2021

Mae’r cwmni cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio (MRO) annibynnol, Caerdav, wedi lansio cynllun prentisiaeth newydd, er mwyn cynnig cyfle cyffrous i ymgeiswyr gychwyn ar yrfa arbenigol fel technegydd cynnal a chadw awyrennau.

Mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, sydd â phedwar campws yn Ne Cymru, mae’r Rhaglen Prentisiaeth Cynnal a Chadw Awyrennau Lefel 3 yn gwrs tair blynedd sy’n cwmpasu astudio yn yr ystafell ddosbarth a gwaith ymarferol yng nghyfleuster MRO Caerdav yn Sain Tathan.

Dywed Joachim Jones, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Caerdav: “Ni fu buddsoddi yn y dyfodol erioed mor bwysig; rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnig pwynt mynediad i’n diwydiant heriol a gwerth chweil i’r genhedlaeth nesaf o dechnegwyr awyrennau.“

Mae gan Goleg y Cymoedd hanes o ddarparu rhaglenni prentisiaeth Lefel 3 gyda sefydliadau awyrennau byd-eang eraill, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i ddatblygu prentisiaeth o’r radd flaenaf ein hunain.

Bydd ceisiadau ar gyfer y cwrs yn cychwyn ym mis Ionawr 2021, gyda Caerdav i ddechrau yn recriwtio 10 sy’n ymddiddori mewn peirianneg hedfan i ddechrau’r cwrs ym mis Medi. Lleolir blwyddyn gyntaf y cwrs tair blynedd yn gyfan gwbl yn yr ystafell ddosbarth; bydd blwyddyn dau yn cynnwys gwaith shifft yn Caerdav ac un diwrnod yn y coleg; a bydd y flwyddyn olaf yn cynnwys gweithio’n llawn amser yn Sain Tathan.

Meddai David Howells, Pennaeth Cyfrifiadura a Pheirianneg yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r coleg yn gyffrous i fod yn bartner gyda Caerdav wrth gynnig y cyfle anhygoel hwn i ddatblygu talent ifanc yn y sector hedfan. Mae’n wych gweld cymaint o ymrwymiad i’r genhedlaeth nesaf o dechnegwyr awyrennau. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein carfan newydd fis Medi nesaf. “

Rhoddir y cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu eu crefft newydd ochr yn ochr â gweithlu medrus a phrofiadol Caerdav, gan ennill cyflog cystadleuol wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfa ym maes cynnal a chadw awyrennau.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau