Mae gweithwyr Tesco yng nghymoedd y De fu’n ychwanegu sgiliau newydd at eu rhestr siopa yn ystod 2013, bellach yn casglu eu bonws, diolch i bartneriaeth fuddiiol rhwng yr archfarchnad a Choleg y Cynoedd.
Mae’r cynllun yn helpu gweithlu yn siopau Tesco yn Ystrad Mynach, Maesteg ac Aberdâr i wellau eu sgiliau mathemateg, cyfathrebu a chyfrifiadureg i fod o fudd yn eu gwaith a’u bywydau.
Mae’r cwmni wedi eu plesio gymaint fel eu bod am ymestyn y cynllun i rai o’u siopau cyfagos ac yna, yn y pen draw, ar draws holl gymoedd De Cymru.
Bu tiwtoriaid Coleg y Cymoedd yn ymweld â’r tair archfarchnad yn rheolaidd i gynnal sesiynau gwerthfawr i ddysgu dan faner y rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle, sydd wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a chyllid o Ewrop.
Caiff y cyrsiau eu teilwra yn ôl anghenion gweithwyr unigol ac fe fyddan nhw’n arwain i gymwysterau cydnabyddedig Sgiliau Hanfodol Cymru. Nod yr hyfforddiant yn y gweithle hwn ydy cynnig sgiliau newydd trosglwyddiadwy a hyder er mwyn i’r cyfanogwyr ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau yn y gwaith.
Yn ôl David Francis, Cyfarwyddwr Cyllid yng Ngholeg y Cymoedd: “Dengys Tesco eu hymrwymiad llawn i’r gweithlu. Rydyn ni’n hynod falch i gydweithio â chwmniau mawr fel hyn sy’n rhannu’n nod i gynnig cyfleodd dysgu gydol oes i bob aelod o’r gymuned. Mae’n galondid i glywed yr adborth gwych mae’n hathrawon wedi ei dderbyn oddi wrth y rhai fu’n rhan o’r hyfforddiant hwn i ddatblygu sgiliau personol yng nghwmni eu cyfeillion a’u cydweithwyr.
Bu’r staff fu’n cymryd rhan yn ymfalchïo yn y modd y bu’r hyfforddiant o gymorth i’w hyder a’u hunanbarch.
Defnyddiodd un, Kath Ward, o siop Tesco Ystrad Mynach, y cyfle i wella ei sgiliau mathemateg a TGCh.
Meddai: “Roedd y cwrs yn galed ar brydiau, gan nad oeddwn i’n gwybod llawer am gyfrifiaduron. Fe ddysgais i hefyd mod i angen diweddaru peth ar y mathemateg ddysgais i yn yr ysgol. Dwi’n falch mod i wedi cwblhau’r cwrs a dwi’n edrych ymlaen am y nesa.â€
Dywedodd Mike Casey, Cyfarwyddwr Storfeydd ar gyfer archfarchnadoedd Tecso yng Ngymru: “Mae ein partneriaeth â Choleg y Cymoedd wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt.
“Bu’r adborth gan y rhai fu’n cymryd rhan yn rhyfeddol a rydyn ni’n awyddus i ehangu’r bartneriaeth â’r coleg er mwyn rhoi’r cyfle i weithlu yn siopau Caerffili a Glyn Ebwy gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau. Maes o law, rydw i’n gobeithio y bydd ein llwyddiant gyda’r coleg yn ein galluogi i roi cyfleoedd Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle i bob un o’n siopau ar hyd a lled De Cymru.â€