Chwilio am yrfa yn arwain Josh o Donypandy at ei swydd ddelfrydol yn Google

Mae cyn-ddysgwr Coleg y Cymoedd wedi defnyddio ei sgiliau technoleg cerddoriaeth i ganfod ei yrfa ddelfrydol gydag un o gewri’r byd technoleg, Google, ar ôl cofrestru i ddechrau ar gwrs gwaith coed pan adawodd yr ysgol.

Mae cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd, Josh Wigley-Iles, sydd bellach yn 35 oed, yn dechnegydd clyweledol yn Google yn Llundain, lle a enwir fel un o’r lleoedd gorau yn y byd i weithio. Mae Josh ar fin cael ei leoli yn ei bencadlys diweddaraf yn King’s Cross – adeilad llorweddol, a elwir yn ‘landcraper’, sy’n cynnwys cwrt pêl-fasged, llwybr ymarfer ar y to a thros 40 pod cyntun i’w weithwyr.

Dechreuodd llwybr gyrfa uwch-dechnoleg Josh ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd pan oedd yn 16 oed ac roedd wedi cofrestru ar gyfer cwrs gwaith coed. Ar ôl sgwrs gyda derbynnydd y coleg am ei gariad at gerddoriaeth, fe’i tywyswyd o amgylch yr adran technoleg cerddoriaeth a oedd yn newydd sbon ar y pryd a neidiodd ar y cyfle i newid i ddiploma tair blynedd mewn technoleg cerddoriaeth yno, gan gyfuno ei sgiliau ymarferol a’i ddiddordebau.

Ar ôl treulio tair blynedd yn dysgu am y diwydiant cerddoriaeth ac yn archwilio sut y creodd rhai o’i hoff fandiau eu cerddoriaeth, graddiodd Josh gyda Theilyngdod a chynhigiwyd swydd ran amser iddo yng Ngholeg y Cymoedd fel technegydd clyweledol yn ei stiwdio recordio newydd sbon.

Wrth siarad am ei lwybr gyrfa o dechnoleg cerddoriaeth coleg i arbenigwr clywedol Google, dywedodd Josh:

“Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda’r coleg. Roedd yn teimlo fel teulu oherwydd roeddwn i wedi bod yno am gymaint o amser yn astudio. Roedd y tiwtoriaid yn ymddiried ynof ac yn gwybod fy mod yn alluog ac yn angerddol am y gwaith. Roedd yn gyflwyniad gwych i’r diwydiant.”

Dair blynedd yn ddiweddarach, ar ei ben-blwydd yn 21 oed, gwnaeth Josh gais am swydd fel technegydd cyffredinol ar Longau Mordaith Disney. Ar ôl proses hir o gyfweliadau, sgrinio meddygol a cheisiadau am fisa gwaith, aeth Josh i forio, gan gael ei ddyrchafu’n ddiweddarach yn dechnegydd theatr lle bu’n gweithio ar yr holl gynyrchiadau ym mhrif theatr y llong. Wrth deithio’r byd fel rhan o’i rôl, o’r Bahamas a’r Caribî i Fôr y Canoldir a Chefnfor yr Iwerydd, cyfarfu Josh hefyd â’i wraig, Leanne.

Yn dilyn ei gyfnod yn Disney, bu Josh wedyn yn gweithio yn Chessington World of Adventures fel technegydd sain adloniant, cyn symud i Lundain i ddatblygu ei yrfa, gan ennill swydd yn QE2, un o’r canolfannau cynadledda mwyaf yn y DU lle bu’n gweithio ar gynyrchiadau proffil uchel, technegol gymhleth ar gyfer pobl fel y teulu brenhinol a phleidiau gwleidyddol.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd Josh swydd ddelfrydol gydag Astraya lle cafodd ei gontractio i Bencadlys Google yn Tottenham Court Road fel uwch dechnegydd clyweledol. Mae nawr ar fin cael ei ail-leoli yn yr adeilad newydd, a fydd yn agor yn 2024, yn rheoli gwaith cynnal a chadw clyweledol yn y pencadlys o’r radd flaenaf.

Wrth siarad am weithio i un o gwmnïau mwyaf ac enwocaf y byd, dywedodd Josh: “Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio yn Google, mae wir yn debyg i’r hyn a welwch yn y ffilmiau, ond yn well. Mae’n awyrgylch mor hamddenol, cyfeillgar ac arloesol, rwy’n teimlo fy mod wedi glanio ar fy nhraed. Mae ganddyn nhw hyd yn oed stiwdio gerddoriaeth y mae’r holl staff yn gallu ei defnyddio yn eu hamser rhydd, ac rydw i’n cael mynd i fyny yno i ddefnyddio’r gitâr a chwarae o gwmpas yn ystod fy amser cinio.

“Cyn gynted ag y cawsom wybod am yr adeilad newydd a’r angen am dri thechnegydd, fe wnes i gais. Mae fy ngyrfa wedi bod yn gyffrous o’r cychwyn cyntaf, ond mae gweithio yn Google wedi bod yn goron ar y cyfan ac rwy’n edrych ymlaen at weld lle bydd y cyfle newydd hwn yn mynd â mi.”

Daw’r cyfle hwn i Josh wrth i Goleg y Cymoedd ddathlu ei ben-blwydd yn 10 mlynedd, gyda’r coleg wedi buddsoddi dros £xxm ers 2013 yn ei gyfleusterau addysgu a dysgu ar draws ei gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach.

Dywedodd: “Mae’n swnio’n ystrydebol, ond mae arna’ i gymaint o fy ngyrfa i’m tiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd. Fe wnaethon nhw fy nghefnogi, fy ngwthio i wneud y pethau rydw i’n angerddol amdanyn nhw, fy nghyflogi, ac maen nhw hefyd wedi bod yn gefnogwyr cyson i mi. Oni bai amdanyn nhw, fyddwn i ddim lle rydw i nawr – byddaf bob amser yn dragwyddol ddiolchgar am yr amser a dreuliais yno, fel dysgwr ac fel gweithiwr.”

Ewch draw i’n sianel YouTube ‘Coleg y Cymoedd’ i gael y fideo llawn a thanysgrifiwch i gael rhagor o straeon am newid bywydau.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau