Chwiorydd yn teithio i Transylvania er mwyn newid bywydau plant mewn angen trwy chwarae

Mae dwy chwaer o Gymoedd y De ar fin teithio dros 1,000 o filltiroedd ar draws Ewrop i roi cymorth i gannoedd o blant sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yn Rwmania.

Bydd Rebecca Bennet, 31 oed, sy’n gweithio fel aseswr gwaith chwarae yng Ngholeg y Cymoedd, a’i chwaer Ann-Mari Bennett, 26, yn mynd i Targu Mures, pentref Roma bach yn Transylvania, lle byddant yn helpu cefnogi teuluoedd sy’n dioddef tlodi enbyd.

Bydd y chwiorydd o Gaerffili, yn ymuno â thîm o 12 o wirfoddolwyr ac yn treulio wythnos yn y pentref, gan ddarparu bwyd, dillad ac adnoddau chwarae i gefnogi 120 o blant a’u teuluoedd.

Gyda’r plant yn y pentref ar hyn o bryd yn derbyn dim ond dau bryd poeth yr wythnos, mae’r cynllun yn anelu at sicrhau bod pob plentyn ac aelodau’r teulu yn cael tri phryd bwyd cynnes y dydd, yn ogystal â chefnogaeth ehangach, tra bod y gwirfoddolwyr yno.

Er mwyn cyflawni hyn, mae’r chwiorydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian cyhoeddus cyn y daith ym mis Gorffennaf, gan gynnwys cystadleuaeth gacennau a ‘noson o glirwelediad’ gyda phedwar cyfryngwr adnabyddus. Mae’r chwiorydd hefyd wedi sefydlu tudalen Just-Giving ar gyfer rhoddion er mwyn gwneud y gorau o’r arian a godir a’r cymorth y gall yr arian hynny ei gynnig.

Trefnwyd y daith trwy Brosiect Chwarae Transylvania, cynllun wedi’i seilio ar y syniad bod chwarae yn hanfodol i ddatblygiad plentyn. Yn ystod yr ymweliad pythefnos, bydd pob un o’r gwirfoddolwyr yn gweithio yn y cantina lleol i baratoi a gweini prydau bwyd, yn ogystal â chynnal gwersyll gweithgareddau i gyflwyno gemau a sesiynau chwarae i blant Roma.

Meddai Rebecca: Tra bo gan ein plant y cyfan sydd ei angen arnynt yn y DU, yn anffodus nid yw hyn yn wir o gwbl yn Rwmania. Mae llawer o’r teuluoedd yn byw mewn amgylchiadau gwael iawn mewn slymiau mawrion, ac roeddem am wneud yr hyn y gallem i’w helpu. Gwyddom i gyd pa mor bwysig yw chwarae i bob plentyn ond nid oes gan lawer o’r plant yn y pentref hwn unrhyw gyfleusterau i’w galluogi i wneud hynny.

“Trwy sefydlu gwersyll gweithgareddau ar eu cyfer, byddwn yn caniatáu i blant fod yn blant a mwynhau eu hunain fel y dylent. Bydd darparu sesiynau chwarae yn gwneud gwahaniaeth anferth iddyn nhw, tra bydd y bwyd a’r gefnogaeth y byddwn yn dod gyda ni o fudd i’r gymuned. “

Ychwanegodd Ann-Mari: “Rydym ni’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect hwn. Mae rhan o’m rôl o ddydd i ddydd yn ymwneud a gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc dan anfantais ac felly mae’r cynllun hwn yn fy ngalluogi i barhau â’r math hwn o waith yn rhyngwladol. Mae cynnig cefnogaeth wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi eisiau ei wneud erioed ac mae cael fy chwaer gyda mi yn golygu y byddwn yn gallu cefnogi ein gilydd drwy gydol y daith. “

Mae Rebecca, sy’n dysgu cwrs ar bwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc yng nghampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, hyd yn oed yn cynnwys ei myfyrwyr yn y prosiect. Mae Rebecca, sy’n fam ei hun i un plentyn, wedi gofyn i’w dysgwyr ddylunio a datblygu’r gweithgareddau chwarae a gemau y bydd y gwersyll yn eu darparu i blant Roma yn ystod ymweliad y gwirfoddolwyr ym mis Gorffennaf.

Esboniodd Rebecca: “Mae fy mhlant llunio mapiau meddwl ar hyn o bryd er mwyn meddwl am y math o beth a allai weithio yn y gwersyll. Oherwydd y rhwystr iaith, bydd angen iddynt ddatblygu gemau sy’n hawdd eu deall a bydd hynny’n helpu’r plant i ddod at ei gilydd i chwarae. Roeddwn i’n meddwl y byddai hwn yn gyfle gwych i’m dosbarth ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd ganddynt yn ymarferol a thros achos da iawn. “

Mae’r ymweliad a gynlluniwyd yn dilyn taith gychwynnol i’r pentref gan wirfoddolwyr Prosiect Chwarae Transylvania fis Hydref diwethaf, ar ôl i’r cynllun gael ei sefydlu yn wreiddiol gan grŵp o weithwyr chwarae a gyfarfu yn y Gynhadledd Gwaith Chwarae Cenedlaethol yn Eastbourne.

Sefydlwyd Prosiect Gwaith Chwarae Transylvania gan Joan Beattie, darlithydd mewn Gwaith Chwarae a Gofal Plant ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, Coleg Shetland, yn dilyn nifer o deithiau i Targu Mures. Ar ôl gwirfoddoli yn y pentref yn flynyddol am y 15 mlynedd diwethaf, roedd Joan wedi gweld yn uniongyrchol bwysigrwydd galluogi plant Roma i chwarae’n rhydd a chael cyfleoedd nad oedd ar gael iddynt yn eu hamgylchedd bob dydd,  a’i hysbrydolodd i sefydlu’r cynllun.

Er nad yw’r chwiorydd yn teithio tan 7 Gorffennaf, maent yn gobeithio codi cymaint o arian â phosibl trwy ddigwyddiadau codi arian a chasglu rhoddion cyn iddynt fynd.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau