Clod i addysgwyr nodedig

Mae myfyrwyr technoleg y celfyddydau perfformio yn un o golegau mwyaf Cymru wedi bod yn rhoi eu sgiliau ar waith ar ôl iddyn nhw fod yn helpu creu anghenfiloedd i wrthwynebu’r Doctor Who newydd.

Mae chwech o fyfyrwyr o Goleg y Cymoedd wedi cwblhau pythefnos o leoliad gwaith gydag adran brostheteg yn Stiwdios newydd Roath Lock ym Mae Caerdydd ac ar leoliadau ar draws De Cymru.

Roedd Lorna Hinton, myfyrwraig mân gelfi, a Kelly Jones, Faye Evans, Kelly Jenkins, Janette Webster a Jessica Palmer, myfyrwyr coluro, yn cael arsylwi a chynorthwyo’r criw wrth ffilmio’r gyfres gyda’r Doctor newydd, Peter Capaldi.

Dywedodd Kelly Jenkins, 22, o Ferthyr Tudful, sydd yn ei hail flwyddyn o’r radd sylfaen yn nhechnoleg y celfyddydau perfformio: “Ron i wrth fy modd ar brofiad gwaith oherwydd roedd mor fuddiol gweld sut mae sioe deledu yn cael ei rhoi at ei gilydd a dysgu am swyddogaeth pawb ar y cynhyrchiad. Ces lynu a thynnu prosthetics sy’n gorchuddio’r pen cyfan a wnaeth i mi syweddoli mod i am fynd i’r agwedd hon o goluro.”

Y gyfres hon o brofiad gwaith ydy’r diweddaraf o’r lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr Coleg y Cymoedd gyda BBC Wales, gyda charfan llynedd yn sicrhau pedwar lleoliad coluro ac un lleoliad mân gelfi ar y rhaglen Casualty a phedwar lleoliad coluro ac un mân gelfi ar gyfer Pobl y Cwm.

Dywedodd Kelly Jones, 28, o Gaerdydd¸oedd yn un o’r myfyrwyr gafodd leoliad ar Casualty y llynedd: “Yn ystod ffilmio Doctor Who roedden ni’n gallu rhwydweithio gyda phobl yn y diwydiant ac roedd hyn fuddiol iawn a siaradon ni â’r sêr hefyd. Cawson ni ein trin fel pawb arall – hyd yn oed cyrraedd y stiwdio erbyn 4am – felly roedd yn wych i roi popeth roedden ni wedi’i ddysgu yn y coleg ar waith.”

Dywedodd Jane Beard, arweinydd cwrs technoleg y celfyddydau perfformio yng Ngholeg y Cymoedd: “Bu’r BBC yn hynod o garedig i gynnig mynediad i’r myfyrwyr i set Doctor Who fel profiad dysgu. Rydyn ni’n ymfalchïo ar yr ystod o gyfleoedd rydyn ni’n eu cynnig i’r myfyrwyr ac mae’n wych eu cyflwyno i fyd gwaith a chwrdd â phobl sy’n ddarpar gyflogwyr.”

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r myfyrwyr yn ffodus iawn i gael Jane Beard yn diwtor arnyn nhw, person sydd â phrofiad helaeth o’r diwydiant cynhyrchu. Mae dysgu sgiliau priodol i’n myfyrwyr, a hefyd yr agwedd a’r wybodaeth sy’n eu galluogi i gael gwaith neu fynd ymlaen i addysg uwch ar ôl cwblhau eu cwrs. wrth wraidd popeth a wnawn yn y coleg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau