Mae coleg gyda champysau yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn chwilio am gyn-ddysgwyr a all ysbrydoli’r genhedlaeth bresennol i lwyddiant academaidd a hyder gyrfa.
Mae Coleg y Cymoedd, sydd â champysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach yn un o’r 400 o ysgolion a cholegau sy’n gweithio gyda’r elusen addysg Future First i ddefnyddio doniau a phrofiad cyn-fyfyrwyr i gefnogi dysgwyr cyfredol.
Ffurfiwyd y coleg yn 2013 pan unodd Coleg Morgannwg a Choleg, Ystrad Mynach, ac mae’n gobeithio cysylltu â chyn-ddysgwyr y ddau goleg ynghyd â’i ragflaenwyr; Coleg Aberdâr, Coleg Pontypridd, Coleg y Rhondda, Coleg Rhymni, Coleg Ystrad Mynach a Chanolfan Celf a Thechnoleg Dylunio Morgannwg.
Mae’n gobeithio y bydd cyn-ddysgwyr mewn gyrfaoedd sefydledig a rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar ac sydd yn awr yn addysg uwch yn gallu ysgogi’r dysgwyr cyfredol a’u helpu i ehangu eu gorwelion swyddi drwy fod yn fodelau rôl o ran gyrfa ac addysg, darparwyr profiad gwaith, mentoriaid, llywodraethwyr a chodwyr arian.
Meddai Karen Phillips, Dirprwy Bennaeth Coleg y Cymoedd, Rydym wedi ymuno â chynllun Future First gan ein bod am i gyn-ddysgwyr fod yn rhan o stori’r coleg a rhannu eu straeon o lwyddiant gyda ni. Yr wyf yn gwybod ein bod wedi cael dysgwyr sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd cyffrous a bydd cael rhwydwaith o ddysgwyr o’r fath, a’u holl brofiad gwerthfawr, yn ein helpu i ehangu gorwelion ein dysgwyr a’u hysbrydoli i anelu’n uwch “.
Dywedodd Christine Gilbert, Cadeirydd Gweithredol Future First a Chyn-Brif Arolygydd Ofsted,, “Dylai pob dysgwr gael y cyfle i lwyddo mewn bywyd ar ôl y coleg, waeth beth yw eu cefndir. Os yw dysgwyr yn gweld bod ‘pobl fel fi’ wedi llwyddo, maent yn fwy tebygol o gredu y gallant hefyd. Maent yn gweithio’n galetach ac mae ganddynt ddisgwyliadau uwch o ran llwyddiant. Rydym am i ragor o ysgolion a cholegau weld manteision defnyddio eu cyn-fyfyrwyr fel adnodd pwerus. “
Mae swyddogion marchnata yng Ngholeg y Cymoedd yn aros i glywed gan gyn-ddysgwyr ar marketing@cymoedd.ac.uk.
Gall cyn-ddysgwyr hefyd gofrestru ar Coleg y Cymoedd Alumni
“