Bu deg o ddarpar gogyddion o ysgolion ar draws Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol rhanbarthol cystadleuaeth FutureChef Springboard a gynhaliwyd yng ngheginau proffesiynol Coleg y Cymoedd ar gampws Nantgarw.
Mae rhaglen FutureChef yn darparu cyfle blwyddyn gron i bobl ifanc gymryd rhan mewn ymyriadau gan y Diwydiant Lletygarwch ac mae’r rhain yn cynnwys gwahanol fodiwlau sy’n cydfynd â’r cwricwlwm .
Mae’r gystadleuaeth yn helpu pobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed i ddysgu coginio ac yn eu hysbrydoli i ystyried bwyd a choginio fel sgil byw, drwy ddatblygu eu talent coginio ac yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw am lwybrau mynediad i’r diwydiant lletygarwch.
Mae staff adran Arlwyo Coleg y Cymoedd wedi bod yn mentora a barnu’r gystadleuaeth hon am nifer o flynyddoedd ac yn falch i fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad nodedig. Mae’r coleg yn cefnogi ethos y gystadleuaeth o gymell egin gogyddion i ymuno ag un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd; “Mae’n bwysig i annog pobl ifanc i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw a gyda chymorth a chyfarwyddyd arbenigwyr y diwydiant, mae cystadleuaeth FutureChef Springboard yn fodd gwych o wneud hynny. Yn 2012, agoron ni gegin 5 seren a dwy gegin arddangos ar gampws newydd £40 miliwn Nantgarw ac rydyn ni wrth ein bodd i rannu’r cyfleusterau hyn ar gyfer cystadleuaeth mor wychâ€.
Yn y ceginau roedd y cogyddion ifanc yn gallu arddangos eu doniau, gan baratoi pryd dau gwrs o fewn amser cyfyngedig. Hwn oedd penllanw digwyddiad cystadleuol iawn a phob disgybl yn gobeithio cyrraedd y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a chyrraedd y brig drwy ennill FutureChef Sprinboard.