Coleg o Gymru yn ymuno â thwrnamaint pêl-droed Affricanaidd i helpu i atal potsio anifeiliaid

Mae dysgwyr creadigol mewn coleg yng nghymoedd De Cymru wedi creu rhino anferth fel masgot ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed yn Affrica sydd wedi’i chynllunio i roi terfyn ar botsian anifeiliaid.

Mae dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd wedi treulio’r chwe mis diwethaf yn gweithio’n ddiflino ar ddatblygu’r rhino chwe throedfedd a fydd yn cael ei ddefnyddio i gychwyn Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino eleni. Cafodd y masgot ei hedfan allan i Mozambique yn gynharach y mis hwn i baratoi ar gyfer y twrnamaint.

Sefydlwyd Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino yn 2016 gan yr elusen anifeiliaid, Wild and Free Foundation, sy’n gweithio i amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd yn Affrica. Crëwyd y Gynghrair ar ôl i gynrychiolwyr o’r sefydliad deithio i bentrefi gwledig Mozambique, lle’r oedd canran uchel o ddynion ifanc yn cael eu harestio neu eu lladd ar ôl ymwneud â photsio rhinos.

Gyda’r pentrefi hyn yn ffinio â Pharc Cenedlaethol Kruger – sy’n gartref i 85% o rinoserosod Affrica – roedd yr elusen eisiau gwybod gan y pentrefwyr beth ellid ei wneud i atal potsio. Yn dilyn adborth gan aelodau’r gymuned, trefnodd yr elusen y gynghrair bêl-droed i gadw dynion y pentrefi’n brysur ac yn llawn cymhelliant.

Mae’r gwpan, a lansiwyd yn wreiddiol gyda 12 tîm, wedi tyfu ers hynny i gynnwys 24 tîm a dros 600 o chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr. Eleni, yn dilyn seibiant o ddwy flynedd oherwydd Covid, mae’r gystadleuaeth yn ehangu i gynnwys Namibia a Zimbabwe ynghyd â Mozambique. Hefyd, mae’n datblygu sawl cynghrair merched.

Dywedodd Richard Embling, darlithydd y BA Anrhydedd mewn Teledu a Ffilm: Creu Propiau yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae hwn wedi bod yn gyfle anhygoel i’n dysgwyr, gan eu galluogi i ddefnyddio eu sgiliau a’u creadigrwydd i helpu gydag achos pwysig iawn. Mae wedi caniatáu iddynt ennill profiad yn ymdrin â chleient go iawn, lle maent wedi dysgu am gyllidebau, cynllunio a therfynau amser.

“Rydym yn hynod o ffodus i fod yn rhan o brosiect mor effeithiol. Mae creu’r masgot yn golygu bod rhinoserosod yn llai ymosodol yng ngolwg y gymuned. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Chynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino eto yn y dyfodol gobeithio.”

Daeth Coleg y Cymoedd yn rhan o Gynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino ar ôl datblygu perthynas gyda’r pypedwr, perfformiwr, cyfarwyddwr ac amgylcheddwr brwd o Gymru, William Todd-Jones. Cysylltodd y seren y coleg â Matt Bracken, Sylfaenydd Wild and Free Foundation, ar ôl clywed am awydd y sefydliad i greu masgot ar gyfer y twrnamaint.

Fel rhan o’r prosiect, datblygodd chwe dysgwr, a oedd yn astudio’r cwrs creu propiau yng Ngholeg y Cymoedd, dri chysyniad a gyflwynwyd i Matt Bracken drwy alwadau fideo. Yna, dewisodd Matt Bracken y dyluniad terfynol.

Cafodd y dysgwyr chwe wythnos i greu’r masgot maint person allan o ewyn ethylen-finyl asetad (EVA) a neilon. Drwy gydol y broses, roedd yn rhaid iddynt sicrhau bod dyluniad y cynnyrch terfynol yn caniatáu awyru a gwelededd digonol i’r sawl y tu mewn iddo a’i fod yn ddigon cadarn i deithio. Ers i Gynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino gael ei chyflwyno, mae pentrefi Mozambique wedi gweld gostyngiad o 90% yn nifer y marwolaethau ac arestiadau o ddynion ifanc oherwydd potsio rhinoserosod. Yn 2019, roedd amcangyfrifon yn awgrymu bod y cwpan wedi helpu i arbed 10 rhino’r mis yn ystod y tymor pêl-droed.

Yn y dyfodol, mae Coleg y Cymoedd yn gobeithio cynhyrchu rhagor o fasgotiaid ar gyfer pob gwlad unigol sy’n ymwneud â’r cwpan, a fyddai’n rhoi rhagor o brofiad ymarferol i ddysgwyr. Hefyd, mae’r coleg am gefnogi cynghrair y merched drwy gael ei dîm pêl-droed merched ei hun i gymryd rhan yn y twrnamaint. Dywedodd Molly Morgan, dysgwr Creu Propiau yng Ngholeg y Cymoedd a fu’n ymwneud â’r prosiect: “Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, yn enwedig o wybod y bydd ein gwisg yn cael ei defnyddio i wneud gwir wahaniaeth i boblogaeth y rhino ac i’r bobl leol yn Affrica.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau