Coleg y Cymoedd a Prifysgol De Cymru yn datgelu prentisiaeth gradd peirianneg rheilffyrdd gyntaf Cymru

Mae Coleg y Cymoedd a Prifysgol De Cymru (PDC) yn cynnig y prentisiaethau gradd peirianneg rheilffyrdd cyntaf yng Nghymru.

Wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a’u cynnal ar y cyd â Choleg y Cymoedd sydd â’i chanolfan yn Nantgarw, bydd y cyrsiau pedair blynedd yn rhoi cyfle i brentisiaid sy’n gweithredu yn y sector rheilffyrdd ennill gradd peirianneg wedi’i hachredu gan brifysgol.

Gan ddechrau ym mis Ionawr 2024, yna yn flynyddol o fis Medi’r flwyddyn nesaf, bydd myfyrwyr ar y ddau gwrs Prentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffyrdd yn canolbwyntio naill ai ar beirianneg sifil a datblygu traciau rheilffyrdd, megis seilwaith ffordd barhaol; neu systemau electro-fecanyddol ac electroneg, gan gefnogi trydaneiddio a chynnal a chadw cerbydau. Gan astudio rhan o’r cwrs yng Ngholeg y Cymoedd ac yna’r gweddill yn PDC, bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn ennill gradd Baglor yn y Gwyddorau.

Dywedodd Louise Pennell, sy’n Ddeon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu yng Nghyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC, fod y cwrs wedi’i ddatblygu i fodloni gofynion penodol y diwydiant rheilffyrdd ledled Cymru a’r DU, wrth i brosiectau fel Metro De Cymru gael eu datblygu i fynd i’r afael â’r angen am systemau trafnidiaeth gyhoeddus cynaliadwy a dibynadwy.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid y diwydiant rheilffyrdd, Diwydiant Cymru, a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r angen am lwybr addysg peirianneg rheilffyrdd yng Nghymru, gan nad oedd cymhwyster o’r fath ar gael yma o’r blaen,” meddai Mrs Pennell.

“Ar ôl i Diwydiant Cymru ofyn i gwmnïau sy’n gweithredu yn y sector rheilffyrdd pa wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad lefel uwch y mae eu hangen ar eu gweithwyr a darpar raddedigion, cafodd y llwybr ei lunio a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

“Yn PDC mae gennym adran beirianneg sy’n flaenllaw yn y sector, mae ganddynt arbenigedd helaeth mewn datblygu rhaglenni dysgu sy’n seiliedig ar waith mewn amrywiaeth o sectorau, ac maent yn arbenigwyr mewn rheoli prentisiaethau gradd ar draws nifer o arbenigeddau.

“Gan ein bod yn arwain ar y brentisiaeth gradd hon, mae cyflogwyr a’r rhai sy’n astudio’r cyrsiau yn sicr o gael mynediad i’r wybodaeth a’r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael i’r diwydiant yng Nghymru.”

Dywedodd Matthew Tucker, Is-ysgrifennydd Gwasanaethau Busnes yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Coleg y Cymoedd yn falch iawn o bartneru gyda PDC ar gyfer y brentisiaeth radd gyntaf o’i math ym maes peirianneg rheilffyrdd Cymru. Bydd myfyrwyr ar y rhaglen hon yn astudio mewn cyfleusterau blaenllaw’r sector drwy ein canolfan hyfforddi gwaith rheilffyrdd arbenigol a sefydledig ar gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae rheilffyrdd yn sector twf i Gymru a bydd y llwybr newydd hwn yn helpu i greu piblinell o dalent gyda’r sgiliau cywir i weld y diwydiant yn ffynnu, gan greu mwy o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd medrus iawn a gyrfaoedd sy’n talu’n dda.

“Mae gan brentisiaethau gradd rôl bwysig i’w chwarae mewn system addysg a sgiliau sy’n adeiladu’r gweithlu ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Mae’r cwrs newydd hwn yn cysylltu gwell trafnidiaeth â gwell swyddi, gan helpu mwy o bobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.”


Mae mwy o fanylion am y cwrs ar gael drwy https://www.cymoedd.ac.uk/prentisiaethau/?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau