Yn ddiweddar, ymwelodd Judith Evans, Pennaeth Coleg Y Cymoedd a chynrychiolwyr o’r coleg â GE Aviation Wales i gynorthwyo a chydnabod cyflawniadau prentisiaid y cwmni yn eu seremoni raddio flynyddol.
Ymhlith y gwesteion eraill oedd David Jones, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chynrychiolwyr o Brifysgol Morgannwg a welodd 20 o brentisiaid rhaglen brentisiaeth GE Aviation Wales yn graddio.
Wedi graddio fel peirianwyr awyrennau, mae’r graddedigion wedi cael swyddi yn y cwmni a byddan nhw’n gweithio ar y pedwar prif fath o beiriannau y mae GE Aviation yn arbenigo ar eu gwasanaethu.
Fel rhan o’r cynllun prentisiaeth, mae GE yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd i greu rhaglen brentisiaeth Llywodraeth Cymru yn y gweithle. Drwy gydol y rhaglen dair blynedd, mae’r prentisiaid yn symud o adran i adran o fewn y busnes er mwyn iddyn nhw ddeall yn well sut mae’r cwmni’n gweithredu, yn ogystal â datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu cymhwyster ffurfiol.
Mae’r brentisiaeth yn cyfuno gwaith coleg a hyfforddiant yn y gweithle hyd at NVQ Lefel 3 a Thystysgrif Dechnegol gydnabyddedig ynghyd â Sgiliau Allweddol
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae prentisiaethau yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o gadw sector awyrofod y DU yn flaengar yn y diwydiant yn fyd-eang. Bydd y sgiliau a’r galluoedd y mae’r prentisiaid yn eu datblygu heddiw yn help i ddatblygu’r diwydiant awyrofod yn y DU yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae gan y bobl ifanc gwrddes i â nhw heddiw gyfoeth o syniadau ffres a sgiliau i’w cynnig, a gall prentisiaethau gynnig cyfnod o brofiad gwaith gwerthfawr ond hefyd gychwyn ar fywyd o ddysgu. Mae nhw wedi cael cyfle i weithio yn un o gyfleusterau cynnal a chadw awyrennau mwyaf yn y byd. Dymunaf yn dda iddyn nhw yn y dyfodol.â€
Dywedodd Mike Patton, Arweinydd Safle yn GE Aviation Wales:
“Rydyn ni wrth ein bodd i ddathlu llwyddiant ein prentisiaid. Mae’r brentisiaeth yn gynllun ymdrechgar lle mae angen cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth dechnegol. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, byddan nhw wedi ennill dealltwriaeth gadarn o’r busnes, a fydd yn rhoi cychwyn da iddyn nhw yn eu gyrfaoedd. Hoffwn eu llongyfarch i gyd; dylen nhw fod yn falch iawn o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni.
“Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydyn ni wedi sefydlu rhaglen brentisiaeth gadarn yn GE Wales. Rydyn ni’n credu’n gryf mai prentisiaethau ydy’r sylfaen i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y busnes a dull gwych o ddatblygu talent pobl ifanc yng Nghymru.â€
Fel rhan o’u prentisiaeth, cynigir cyfle i’r prentisiaid gymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin. Mae’r cynllun yn annog pobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli yn y gymuned, ffocysu ar weithio mewn tîm, adeiladu cymeriad tra’n datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu. Ar hyn o bryd GE ydy’r unig gwmni yng Nghymru i gynorthwyo prentisiaid drwy’r fenter hon.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR