Mae Coleg y Cymoedd wedi llwyddo o sicrhau lle ar Raglen yr AOC ar Ddatblygu Arweinyddiaeth a sicrhau memorandwm o ddealltwriaeth gyda choleg technoleg arbenigol yn Tsieina.
Aeth Paul Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau’r coleg ar ymweliad pythefnos i Tsieina i sefydliad Polytechnig Nanjing i geisio atgyfnerthu’r cysylltiad gyda Tsieina a fyddai o fantais i’r ddau sefydliad.
O ganlyniad i’r ymweliad hwn mae’r coleg ers hynny wedi croesawu cynrychiolwyr o Sefydliad Polytechnig Nanjing i ystyried meysydd i gydweithredu ynddyn nhw ac wedi arwyddo memorandwm Dealltwriaeth i ffurfioli’r bartneriaeth.
Ymhlith y meysydd o ddiddordeb mae rhaglenni hyfforddiant staff, cyfnewid myfyrwyr, meincnodi sicrhau ansawdd ac addysgu a dysgu.
Y rhesymeg tu ôl i’r memorandwm dealltwriaeth a arwyddwyd yn ystod ymweliad diweddar â Choleg y Cymoedd ydy rhannu arferion gorau a chynyddu’r cydweithredu rhyngwladol a phroffil y coleg.
Dywedodd Paul Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau: “Mae’n wych bod y coleg yn gwella partneriaethau rhyngom ni a Tsieina. Bydd y cyfle i rwydweithio gydag arbenigwyr yn y sector galwedigaethol yn Tsieina yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith rhagorol rydyn ni eisoes yn ei wneud ac i rychwantu meysydd newydd a fydd er lles dysgwyr yng Nghymru a Tsieina.â€
Mae’r Coleg wedi gweithio gyda Tsieina am dros bum mlynedd ac yn sylweddoli’r angen i ddatblygu perthynas gref gyda sefydliadau i gynyddu’r cysylltiadau rhyngwladol er budd y sefydliad.