Coleg y Cymoedd yn cipio tair gwobr mewn cystadleuaeth fwyd genedlaethol

Coronwyd bwyty Scholars Coleg y Cymoedd yn ‘Fwyty’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Bwyd Cymru 2022, gan guro dros 40 o sefydliadau eraill ledled y wlad i gipio’r brif wobr.

Mae’r wobr yn un o dair gwobr a enillwyd gan Scholars yn y gystadleuaeth genedlaethol yn y gwobrau eleni, a gynhaliwyd mewn digwyddiad tei du yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Y ddwy wobr arall oedd ‘Ysgol Goginio’r Flwyddyn’ a ‘Bwyty’r Flwyddyn y De ddwyrain’

Mae Gwobrau Bwyd Cymru yn cydnabod ac yn gwobrwyo llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n rhan o ddiwydiant bwyd Cymru.

Mae aelodau o’r cyhoedd o bob rhanbarth yn pleidleisio dros yr enillwyr.

Mae Scholars, a leolir ar gampws Ystrad Mynach y coleg, wedi cael ei ganmol am ansawdd y bwyd a’r gwasanaeth ers iddo agor ym 1973. Mae’r bwyty’n cael ei redeg gan ddysgwyr sy’n astudio ar gyrsiau Coginio Proffesiynol, Gweini Bwyd a Patisserie Lefel 1,2,3 ac ar hyn o bryd mae ganddo sgôr pum seren ar TripAdvisor.

Dywedodd Hayley Hunt, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd: “Cefais fy syfrdanu’n llwyr yn y gwobrau. Mae dod adref gydag nid un, nid dwy ond tair gwobr, gan gynnwys ‘Bwyty’r Flwyddyn’ yn gamp anhygoel. Rydym wedi buddsoddi llawer yn ein hadrannau a’n cyrsiau arlwyo dros y flwyddyn, felly mae’n wych gweld hyn yn cael ei gydnabod.

“Mae ein bwytai yn cael eu rhedeg gan ein dysgwyr a staff y coleg felly mae’n wych gweld gwaith caled ac angerdd pawb yn cael eu gwobrwyo.”

Mae’r gwobrau yn dilyn cyfres o lwyddiannau i adrannau arlwyo Coleg y Cymoedd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda dysgwyr o’r coleg hefyd yn ennill chwe gwobr yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2022.

Yn sgil y gwobrau, sy’n herio dysgwyr, hyfforddeion a phrentisiaid o bob rhan o Gymru i gystadlu mewn cyfres o heriau yn ymwneud â’u dewis sector, cipiodd Coleg y Cymoedd bedwar medal aur yn y gystadleuaeth – aur yn y categorïau Celfyddydau Coginio a Patisserie a Melysion yn ogystal â dau yn y categorïau Sgiliau Cynhwysol a Gwasanaeth Bwyty.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau