Coleg y Cymoedd yn cyhoeddi buddsoddiad pellach ym Mwrdeistref Caerffili

Cafodd grŵp fyfyrwyr o Goleg y Cymoedd gipolwg ar fyd rasio ceir ‘Formula 1’ gyda thaith o gwmpas ffatri un o dimoedd mwyaf blaengar y byd sef Williams F1. Nod yr ymweliad oedd rhoi cipolwg ar y proffesiwn i’r myfyrwyr a chyfle iddyn nhw siarad â phobl sy’n gweithio yn y diwydiant.

Yn ddiweddar, ymwelodd y dysgwyr sy’n astudio Moduron Rasio a Llwybrau i Brentisiaeth Lefel 2 ar gampws Rhymni â phencadlys Williams Formula 1 yn Grove, Swydd Rhydychen. Mae’r adeilad modern trawiadol a’u ffenestri arian a’u drysau ‘hanger’ yn cuddio’r gweithgareddau sy’n digwydd tu ôl iddyn nhw!

Croesawyd y grŵp gan Simon, eu tywysydd am y diwrnod, yn y Ganolfan Gynadledda. Aeth â’r myfyrwyr ar daith o gwmpas y lle a chawson nhw gyfle unigryw i weld y gwaith yng nghwmni ‘Williams’.

Roedd pawb wedi’u cyffroi wrth weld car rasio 2013 Pastor Maldonado. Mae’r car hwn, sef y car berfformiodd orau’r flwyddyn flaenorol, yn cael lle amlwg wrth y fynedfa a char yr enillodd Jacques Villeneuve ynddo ym mhencampwriaeth 1997 yn hongian uwch ei ben.

Yna, cafodd y dysgwyr weld ffilm fer yn rhoi ychydig o hanes y tîm a’r gyrwyr. Ar ôl y ffilm, cododd y sgrîn i ddatgelu casgliad o geir wedi’u trefnu a’u goleuo’n fendigedig. Mae’r deugain car hyn yn bwysig yn hanes Willams a dyna’r rheswm mae nhw’n cael eu harddangos yn y garej.

Atebodd Simon gwestiynau gan y dysgwyr megis ‘sut bydd y sgiliau y maen nhw’n eu dysgu nawr yn cael eu defnyddio yn y maes yn y dyfodol’ a ‘pha ospiynau gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant’. Hefyd, eglurodd hanes cefndir y tîm, y ceir a’r gyrwyr.

Ar ddiwedd y daith cafodd y dysgwry gyfle i eistedd mewn car rasio F1 – ond haws dweud na gwneud – doedd dim llawer o le hyd yn oed i’r dysgwyr lleiaf a’r mwyaf heini.

Dywedodd un o’r dysgwyr, Sherrie Cullen: “Roedd hwn yn gyfle gwych, fe wnes i wirioneddol fwynhau’r ymweliad ac o siarad â Simon sylweddolais fod hi’n bosibl bod gyrfa â Thîm Formula Un yn bosibl – os gweithiwch yn galed i gyflawni’r cymwysterau.”

Wrth ddiolch i Simon, dywedodd Tiwtor y Cwrs, Paul Jones: “Mae ein myfyrwyr wedi cael modd i fyw ac wedi mwynhau’r ymweliad yn fawr iawn ac mae eich gwybodaeth wedi’u hysbrydoli. Gobeithio y byddan nhw’n parhau i wneud cynnydd yn eu hastudiaethau a phwy a ŵyr, yn y dyfodol, mai nhw fydd yn tywys darpar ddysgwyr o gwmpas y ffatri!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau