Coleg y Cymoedd yn cyrraedd lefel efydd Gwobr Gofalwyr Ifanc y Coleg

Mae staff Coleg y Cymoedd campws Aberdâr wedi arwain y ffordd yn y sector AB yn cyflawni Tystysgrif Lefel Efydd Gwobr Gofalwyr Ifanc y Coleg; a luniwyd gan brosiect Cymorth i Ofalwyr Rhondda Cynon Taf.

Mewn cyfrifiad yn ystod 2011, roedd dros 29,000 o ofalwyr o fewn Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys gofalwyr ifanc rhwng 18 a 25 oed. Mae’r bobl ifanc hyn yn helpu i ofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog na fyddai heb eu help yn gallu ymdopi, oherwydd salwch, oed neu anabledd.

Mae llawer o’r bobl ifanc hyn yn ildio’u cyfleoedd addysg a’u hyfforddiant, oherwydd nad ydyn nhw’n gallu ymdopi gyda’r pwysau ychwanegol o astudio; ac efallai ddim am ddweud wrth eu tiwtor eu bod yn ofalwyr.

Sylweddolodd y coleg, sydd â champysau yn Rhondda, Cynon, Taf a Chaerffili pa fath o broblemau y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu wrth astudio yn y coleg a phenderfynu gweithredu; gyda Champws Aberdâr yn arwain y prosiect.

Gan weithio gyda Kerris Olsen-Jones, Gweithiwr Datblygu Oedolion Ifanc o Ofalwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sefydlodd y campws nifer o brosesau gan gynnwys cyfarwyddyd fesul cam, dulliau ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant i gynorthwyo dysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Mae’r holl staff sy’n gweithio ar gampws Aberdâr wedi sylweddoli pa mor werthfawr ydy hyfforddiant ac wedi cefnogi a chynorthwyo’r prosiect yn llwyr. I ennill y Wobr Efydd roedd rhaid i’r campws ddangos tystiolaeth eu bod wedi ymrwymo i ganfod gofalwyr ifanc a’u cynorthwyo fel grŵp o ddysgwyr agored i niwed.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd a dderbyniodd y Wobr Efydd: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr Efydd am ein gwaith gyda dysgwyr sy’n ofalwyr. Rydyn am i’n holl ddysgwyr allu cymryd rhan lawn yn eu haddysg gan gynnwys y rhai â chyfrifoldebau gofalu. Mae Gwobr Gofalwyr Ifanc y Coleg a luniwyd gan brosiect Cymorth i Ofalwyr RhCT yn sicr wedi codi’n hymwybyddiaeth ac wedi helpu’n staff i ddeall yr arwyddion y gallai dysgwyr fod yn ofalwr a’r dulliau y gallwn ni eu defnyddio i’w helpu; yn eu cyfeirio at y cymorth priodol. Mae’r prosiect nawr yn cael ei roi ar waith ar bob campws.”

Dywedodd Kerris Olsen-Jones: “Mae’n bleser gennym gyflwyno’r Dystysgrif Lefel Efydd i Laura Wilson, Swyddog Lles ar gampws Aberdâr. Mae Laura a’i chydweithwyr wedi gwneud cymaint i helpu’r gofalwyr ifanc sy’n astudio ar y campws.

Mae colegau ac ysgolion yn chwarae rôl hanfodol ym mywyd gofalwr ifanc, ond mae llawer yn gofalu am berthnasau heb fod y staff yn ymwybodol o’r hyn maen nhw’n ei wneud. Dyna’r rheswm pam mae’r prosiect Cymorth mor bwysig i helpu staff academaidd a chymorth, fel ei gilydd, i ganfod gofalwyr ifanc a’u cyfeirio at y prosiect Cymorth; gall y cymorth maen nhw’n ei dderbyn gael effaith enfawr ar eu dysgu, eu lles a’u cyfleoedd mewn bywyd.”

Mae’r prosiect eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau gofalwyr ifanc ac mae’n helpu i sicrhau bod Coleg y Cymoedd yn cael ei ystyried yn amgylchedd cefnogol. Y gobaith ydy y bydd y bartneriaeth barhaus rhwng y coleg a’r Awdurdod Lleol i ddatblygu’r prosiect yn annog rhagor o ddysgwyr i nodi eu bod yn ofalwyr ac i dderbyn y cymorth priodol; i gyflawni eu potensial llawn yn eu bywyd, beth bynnag fo’u llwybr gyrfaol.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau