Mae coleg blaenllaw yng nghymoedd De Cymru wedi cael £3.4m gan lywodraeth y DU i gynnal dosbarthiadau Mathemateg a Rhifedd am ddim i oedolion ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.
Rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Mawrth 2025, bydd Coleg y Cymoedd yn darparu sesiynau i unrhyw un dros 19 oed nad oes ganddynt TGAU Mathemateg ar hyn o bryd i’w cefnogi i ennill detholiad o gymwysterau rhifedd.
Bydd y cyllid, sy’n rhan o raglen ‘Lluosi’ San Steffan i geisio gwella sgiliau Mathemateg oedolion, ar gael ar draws campysau’r coleg yn Aberdâr, y Rhondda, Ystrad Mynach a Nantgarw yn ogystal ag mewn lleoliadau amrywiol ar draws y ddwy fwrdeistref gan gynnwys cyfleusterau cymunedol.
Bydd detholiad o gyrsiau yn cael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan gynnwys sgiliau hanfodol mewn Rhifedd, TGAU Mathemateg, a Rhifedd ar-lein. Bydd pob cwrs yn cael ei deilwra i lefelau sgiliau a gallu dysgwyr, gyda chymysgedd o gefnogaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae Coleg y Cymoedd wedi gweithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru, Equal Education, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Gwent, i ymgysylltu â chymunedau a allai fod wedi cael anhawster yn y gorffennol gyda mynediad i addysg bellach.
Hefyd, mae’r coleg wedi cydweithio ag n-ergy, sefydliad cymorth hyfforddiant a chyflogaeth galwedigaethol, i gynnig cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y rhai sydd wedi gadael carchar yn ddiweddar i’w helpu i ennill cymwysterau a chefnogi eu cyflogaeth.
Dywedodd Matthew Tucker, Pennaeth Cynorthwyol Coleg y Cymoedd: “Mae mathemateg a rhifedd yn sgiliau mor bwysig i’w cael, ar lefel bersonol bob dydd, ond hefyd pan ddaw’n fater o roi hwb i addysg rhywun neu gael gwaith, felly rydym wrth ein bodd yn gweithio. gyda Chyngor Rhondda a Chaerffili i gynnig cyrsiau hyblyg am ddim i’r cymunedau lleol ar draws y ddwy sir dros y ddwy flynedd nesaf.
“Mae’n hanfodol i ni ein bod ni’n darparu ar gyfer cymaint o wahanol bobl sydd eisiau dysgu a gwella eu sgiliau mathemateg a rhifedd ag y gallwn, a dyna pam rydyn ni’n cynnig ystod o leoliadau i wneud y cyrsiau hyn mor hygyrch â phosibl.
“Nod y rhaglen Lluosi yw rhoi hwb i hyder dysgwyr, gan eu helpu ar y camau cyntaf tuag at gymwysterau rhifedd ffurfiol, boed hynny er mwyn iddynt gael cyfleoedd gwaith newydd, eu helpu i gyfrifo eu harian, cynorthwyo eu plant gyda’u gwaith cartref neu eu paratoi ar gyfer astudio yn y dyfodol.”
Gall dysgwyr gofrestru eu diddordeb yn: https://www.cymoedd.ac.uk/employers/multiply-2/
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR