Mae Coleg y Cymoedd wedi cael llwyddiant ysgubol yng ngwobrau World Skills UK eleni, gan ennill saith medal – y llwyddiant gorau erioed i’r coleg yn y gystadleuaeth.
Mae World Skills UK, sy’n bartneriaeth rhwng cyflogwyr, darparwyr addysg a llywodraethau, yn elusen annibynnol sy’n cefnogi pobl ifanc ledled y wlad i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau drwy hyfforddiant, asesu a meincnodi ar sail cystadlaethau.
Mae’r amrywiaeth o gystadlaethau sydd ar gael yn hyrwyddo talentau dysgwyr mewn amrywiaeth o feysydd, gyda’r ymgeiswyr hefyd yn cael y cyfle i wneud cais i gynrychioli’r DU yng Ngemau Olympaidd World Skills lle byddant yn cystadlu yn erbyn timau cenedlaethol o dros 80 o wledydd ledled y byd.
Yng ngwobrau eleni, bu 13 o ddysgwyr Coleg y Cymoedd yn cystadlu yn y gystadleuaeth genedlaethol gyda mwy na hanner yn ennill medalau.
Dywedodd Matthew Watts, Cydlynydd Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae World Skills UK yn gyfle cyffrous i’n dysgwyr wella eu sgiliau a dod yn fwy cyflogadwy. Mae gofyn i’r tiwtoriaid a’r dysgwyr ymgymryd â llawer o waith a hyfforddiant ychwanegol er mwyn paratoi ar gyfer y gwobrau, sy’n cael ei adlewyrchu gan y llwyddiant gwych a gafodd y Coleg yn y gystadleuaeth eleni.
“Mae pob dysgwr sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth wedi dangos ymroddiad i’w maes, rhagoriaeth yn eu gwaith ac agwedd benderfynol at ragori ym mhob un o gamau’r gystadleuaeth. Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain.”
Eleni, daeth dau o ddysgwyr Coleg y Cymoedd, Ruben Duggan a Cole Peters, â medalau aur adref yn y categorïau Plymio a Thechnoleg Cyfathrebu Gweinyddwyr Systemau Rhwydwaith yn y drefn honno. Enillwyd pedair medal arian gan Lewis Hart mewn Technoleg Cyfathrebu yn ogystal â phrentisiaid GE Aviation, Megan Christie, Pawel Abramowicz a Jamie Williams a enillodd yn y categori Her Tîm Gweithgynhyrchu ar gyfer Hedfan.
Enillwyd medal efydd arall am Dechnoleg Cyfathrebu Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith gan Zack Morris, dysgwr Coleg y Cymoedd, a derbyniodd prentis o Gaerdav a dysgwr Coleg y Cymoedd Kaleb Szymanski wobr canmoliaeth uchel yn y gystadleuaeth Cynnal a Chadw Awyrennau.
Mae’r cystadlaethau World Skills,a gynhelir ar lefelau rhanbarthol, DU a rhyngwladol, yn gyfle i ddysgwyr fireinio eu sgiliau a’u hyfforddiant yn eu dewis faes, cael mynediad at gyfleoedd addysg uwch gwych, a chynyddu eu cyflogadwyedd. Caiff pob cystadleuaeth sgiliau ei beirniadu gan banel o arbenigwyr y diwydiant drwy amrywiaeth o dasgau ymarferol a rhai sy’n seiliedig ar senarios, gyda’r cyfranogwyr sy’n perfformio orau yn symud ymlaen yn y gystadleuaeth.
Mae Coleg y Cymoedd wedi gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant fel GE Aviation a Caerdav i ddarparu’r hyfforddiant ychwanegol hanfodol a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i ddysgwyr ragori ar bob cam o’r gystadleuaeth.
Ychwanegodd Matthew: “Ochr yn ochr ag ymroddiad ein dysgwyr a’n tiwtoriaid, rydym hefyd yn ddiolchgar i’n partneriaid yn y diwydiant sydd wedi rhoi o’u hamser a’u cyfleusterau i gefnogi hyfforddiant y dysgwyr. Cafwyd ymdrech gan bawb, ac mae’n wych gweld yr ymdrech honno’n cael ei gwobrwyo.
“Rydyn ni’n gweithio’n barhaus ar ffyrdd o wella sgiliau diwydiant a menter dysgwyr – mae’n rhywbeth rydyn ni bob amser yn ei ddatblygu ac yn anelu at wreiddio ar draws meysydd cwricwlwm Coleg y Cymoedd. Rydym yn edrych ymlaen at longyfarch y dysgwyr a gymerodd ran yng nghystadleuaeth World Skills UK yn y flwyddyn newydd, ochr yn ochr â chyhoeddi’r garfan ryngwladol newydd ar gyfer 2023.”