Coleg y Cymoedd yn gweld y golau drwy Fuddsoddiad Gwyrdd

Mae cyn fyfyriwr busnes ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd i’w hen goleg yn athro fel rhan o’i astudiaethau TAR.

Roedd Andrew James, 25, o Ferthyr Tudful, yn fyfyriwr ar gwrs Diploma Lefel 3 BTEC mewn Busnes o 2005 tan 2007. Mae nawr yn bwriadu mynd yn diwtor busnes mewn coleg AB ac aeth yn ôl i’r coleg i ennill profiad addysgu gwerthfawr.

Ar ôl ei ddyddiau coleg aeth Andrew i astudio Rheoli Busnes ym Mhrifysgol De Cymru ac yna cafodd waith mewn cwmni gofal iechyd yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, ar ôl bod yn America ddwywaith yn addysgu mewn Gwersylloedd Haf, penderfynodd Andrew fod yn well ganddo ystafell ddobarth na swyddfa.

Cafodd Andrew ei annog gan ei gyn-diwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd i ddychwelyd i’r coleg i astudio cwrs TAR a hyd yn oed cynnig cyfle iddo ennill profiad o addysgu ar ei hen gwrs.

Dywedodd Andrew: “Ron i wrth fy modd yn gweithio gyda phobl ifanc yn America a phan ddes yn ôl, cysylltais i â fy nghyn-diwtoriaid yn y coleg ac maen nhw wedi bod mor gefnogol yn fy helpu i weithio tuag at gyflawni fy nghymwysterau addysgu.

“Roedd y cwrs busnes yng Ngholeg y Cymoedd yn sail gadarn ar gyfer cwrs prifysgol a ches brofiad ymarferol go wir ar gyfer y gweithle, megis gwybodaeth waith o systemau cyfrifo a busnes SAGE.”

Ers 2012 bu Andrew yn addysgu unedau adnoddau dynol cwrs Busnes BTEC yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Pan es i nôl i’r coleg fel tiwtor, ron i’n gallu rhoi barn onest i’r myfyrwyr ar yr hyn gall y cwrs ei gynnig a sut gallan nhw fanteisio ar hynny pan fyddan nhw’n chwilio am waith neu am le mewn prifysgol.

Mae’r tiwtoriaid mor gefnogol ac mae fy nyled i’n fawr iddyn nhw gan eu bod wedi fy ysgogi i’n bersonol am 10 mlynedd bellach. Yn wreiddiol, dewisais y cwrs ar gampws Ystrad Mynach oherwydd yr enw da oedd ganddyn nhw a dw i mor falch mod i wedi gwneud. Dw byth a beunydd yn atgoffa’r myfyrwyr pa mor lwcus ydyn nhw o gael dysgu sgiliau ymarferol mor werthfawr.”

Dywedodd Sam James, tiwtor busnes yng Ngholeg y Cymoedd: “Gwnaeth Andrew yn fawr o bob cyfle gafodd gyda ni, yn aelod o’r tîm enillodd cystadleuaeth Her Sgiliau Allweddol y DU yn 2007. Rydw i wrth fy modd clywed ei fod yn ystyried gyrfa ym maes addysgu ac roedd y coleg yn hapus i roi help llaw iddo yn ystod ei astudiaethau TAR.

“Mae cael tiwtoriaid ar y cwrs a all gynnig gwir brofiad ym maes busnes yn rhywbeth yr ydyn ni’n ei gymell oherwydd ei fod yn golygu bod ein myfyrwyr wedi’u paratoi’n fwy trylwyr ac yn fwy parod ar gyfer cam nesaf eu haddysg neu eu gyrfa.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau