Mae Coleg y Cymoedd wedi llwyddo i sicrhau Achrediad Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr; anrhydedd a ddatblygwyd yn arbennig gan ofalwyr i gydnabod y lefel uchaf o ymrwymiad y gall sefydliad ei roi i gefnogi Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr.
Enwyd Coleg y Cymoedd yn un o ddim ond dau sefydliad addysgol yng Nghymru i ennill y clod hwn ac mae Coleg y Cymoedd yn hynod falch.
Mae’r coleg, sef y darparwr AB mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, wedi mynd ati’n rhagweithiol i adnabod y myfyrwyr sydd â rolau gofalu a chreu cymorth ar eu cyfer. Yn ei dro, mae hyn wedi helpu i wella’r niferoedd sy’n aros ar gyrsiau ac wedi rhoi hwb i forâl i helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd.
Dathlodd y coleg yr anrhydedd mewn seremoni arbennig ar ei gampws yn Nantgarw’r wythnos hon. Llongyfarchodd y prif siaradwr, Julie Morgan MS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Dîm Lles a Diogelu’r coleg. Cymeradwyodd y gofalwyr Ifanc a oedd yn bresennol dystebau gan gyn-fyfyrwyr, Jay Lee Jenkins, Alisha Morgan, a Rosie Adams (a ddaeth yn un o’r Gofalwyr Ifanc cyntaf o Goleg y Cymoedd i ennill lle mewn prifysgol yn gynharach eleni).
Daw’r anrhydedd wrth i Goleg y Cymoedd ddangos ymrwymiad parhaus i gefnogi Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr gyda darpariaeth unffurf â ffocws lleol ar bob un o’i bedwar campws i ddiwallu gwahanol anghenion y myfyrwyr. Ymhlith y rhain mae mentrau i gefnogi datblygiad parhaus a gwelliannau fel y Wobr Gofalwr Ifanc; cymorth pontio i Addysg Uwch; hyfforddiant neu gyflogaeth; cymorth ychwanegol y tu allan i amser tymor.
Wrth gadarnhau dyfarniad y coleg, dywedodd Asesydd QSCS, Naomi Sykes: “Mae staff Coleg y Cymoedd, yn enwedig […] y Tîm Lles, yn dangos cydnabyddiaeth a pharch tuag at gyflawniadau myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu wrth oresgyn yr heriau a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.
“Maent yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth adweithiol ac ymatebol i ddiwallu anghenion cyfnewidiol myfyrwyr unigol. Mae’r coleg wedi dangos meddwl arloesol wrth ddatblygu cymorth, gan gynnwys ei Wobr Gofalwr Ifanc flynyddol a’r nod o gyflwyno Cynghorydd Lles Ariannol Aml-Safle, [ac] mae ffocws ar Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymunedol i’w weld ym mhartneriaethau’r coleg â gwasanaethau gofalwyr a darparwyr AU.”
Dywedodd y Pennaeth Lles a Diogelu, Joel Price: “Rydym wrth ein bodd bod ein cefnogaeth i Ofalwyr sy’n Oedolion Ifanc wedi’i chydnabod yn y Dyfarniad QSQC.
Mae’n gadarnhad bod Coleg y Cymoedd yn cynnal mentrau gwych ac yn arwain y ffordd o ran cymorth i Ofalwyr sy’n Oedolion Ifanc nid yn unig yn yr ardaloedd cyfagos, ond yng Nghymru gyfan.
Rydym wedi dod mor bell yn y blynyddoedd diwethaf a byddwn yn parhau i wthio am safonau uwch o ddarpariaeth i Ofalwyr Ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u rôl a faint y gallant ei gyflawni gyda’r gefnogaeth gywir.
Hoffwn achub ar y cyfle i longyfarch ein Tîm Lles a diolch iddynt am y gofal a’r sylw gofalus y maent wedi’i roi i wella profiad ein myfyrwyr sy’n Ofalwr Ifanc yn y coleg a thu hwnt. A hefyd, i ddiolch i’n partneriaid yn RhCT a Gofalwyr Ifanc Caerffili yr ydym yn gweithio mor dda gyda nhw. Ni fyddem wedi gallu dod mor bell â hyn hebddynt.
Wrth i niferoedd y Gofalwyr Ifanc yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili gynyddu, mae angen i ddarpariaethau ar gyfer Gofalwyr Ifanc esblygu hefyd. Mae ein dyled yn fawr iddynt. Nid ydynt yn cael digon o amser iddynt eu hunain.
Mae’r dyfarniad hwn yn ddathliad o’r bobl ifanc hynod, gwydn y cawn y fraint o weithio gyda nhw bob dydd.”
Dysgwch ragor am ymrwymiad Coleg y Cymoedd i Les a Diogelu, yma: https://www.cymoedd.ac.uk/cymorth-i-ddysgwyr-2/lles-a-lles/?lang=cy
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR