Cafodd Tîm Rheoli Strategol Coleg y Cymoedd eu llongyfarch gan NUS Cymru am eu hymrwymiad i ‘Lais y Dysgwr’ yn ystod Cynhadledd Llais y Dysgwr a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg y Cymoedd.
Mynychodd dros 80 o ddysgwyr o gampws Aberdâr, Rhondda, Nantgarw ac Ystrad Mynach Gynhadledd Dysgwyr gyntaf y coleg newydd. Croesawodd Rhiannon Llewellyn, Swyddog Gweithredol y Myfyrwyr, gynrychiolwyr y Dysgwyr a’r Tîm Rheoli Strategol i fwyty Llewellyn ar gampws Aberdâr gan ddiolch hefyd i Beth Button, Dirprwy Lywydd NUS Cymru, am roi o’i hamser prin i fynychu’r digwyddiad.
Yn ei hanerchiad, rhoddodd Beth syniad o waith NUS gan bwysleisio pwysigrwydd digwyddiadau fel y Gynhadledd i gasglu barn dysgwyr a fyddai yn eu tro yn cael eu ddefnyddio i lobïo gweinidogion ar ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol. Cymeradwyodd y pwyslais y mae’r Pennaeth a’r Tîm Rheoli yn ei roi ar gasglu barn y dysgwyr ac yna gweithredu ar sail hynny; roedd eu presenoldeb a’u cyfranogiad yn y Gynhadledd yn dyst i hynny.
Dechreuwyd rhaglen y dydd gyda sialens tîm oedd yn gofyn am sgiliau creadigol gan ddysgwyr a staff. Yna symud ymlaen i drafod pa mor dda roedd y Coleg yn cynorthwyo cynnydd dysgwyr yn ystod eu cwrs ac yn sgil hyn cafwyd trafodaeth ddefnyddiol ar y defnydd o Gynlluniau Dysgu unigol a’r system diwtorial. I orffen gofynnwyd i’r timoedd ystyried sut caiff eu cynnydd ei reoli o ran y camau nesaf i lefelau uwch AB, i brifysgol neu i brentisiaethau neu gyflogaeth.
Dywedodd Judith Evans, Y Pennaeth a’r Prif Weithredwr: Dw i’n wironeddol fwynhau Cynadleddau Dysgwyr gan ei fod yn awyr iach i dreulio amser o ansawdd gyda’r dysgwyr a gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Mae’n dda gwybod bod dysgwyr yn mwynhau eu hamser yma gyda ni a bydd yr adborth a gawn heddiw yn ein helpu i wella profiad y dysgwyr ymhellach, gyda ffocws cadarnach ar gymorth a chynllunio’r camau nesaf ar daith dysgwyr.†Diolchodd y Pennaeth i’r staff a’r dysgwyr am ddiwrnod llawn gwybodaeth a sicrhau pawb y byddai eu hadborth yn cael ei drafod a chymryd y camau gweithredu i ddelio ag unrhyw broblemau.
I gloi’r Gynhadledd cafwyd bwffe poeth blasus iawn wedi’i baratoi a’i weini gan fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo campws Aberdâr.
“