Coleg yn ennill Gwobr Ryngwladol nodedig y Cyngor Prydeinig

Mae Coleg y Cymoedd wedi gosod meincnod er mwyn i golegau Cymreig eraill dargedu eu gwastraff a gwella cynaliadwyedd drwy leihau gwastraff bwyd drwy’r holl wasanaethau arlwyo a lletygarwch ar eu lleoliadau Campws.

Coleg y Cymoedd ydy’r coleg cyntaf yng Nghymru ac un o’r rhai cyntaf yn y DU i lofnodi Cytundeb Gwasanaethau Lletygarwch a Bwyd ‘WRAP’er mwyn gwella cynaliadwyedd.

Mae arwyddo’r cytundeb hwn yn golygu bydd staff a myfyrwyr adran arlwyo’r coleg, ynghyd â’r sefydliadau lletygarwch ar bob un campws, yn rhan o gwtogi ar wastraff bwyd a deunydd pacio, gan ddefnyddio adnoddau’n fwy darbodus a lleihau gwastraff.

Mae’r coleg wedi ymuno â’r cytundeb ynghyd â nifer o gwmnïau preifat ar hyd a lled Cymru a’r DU, rhai sy’n amrywio o Fusnesau Bach a Chanolig i gorfforaethau mawr. Bydd adrannau arlwyo a lletygarwch pum campws y coleg yn ardaloedd Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn canolbwyntio ar gyrraedd targedau newydd er mwyn gwella cynaliadwyedd.

Y gobaith ydy y bydd llofnodi’r cytundeb yn gosod esiampl i sefydliadau eraill yn y sector a chodi ymwybyddiaeth am faterion cynaliadwyedd ymhlith myfyrwyr arlwyo. Y bwriad i’r dyfodol ydy cael myfyrwyr i ymwneud mwy wrth osod a gweithredu’r safonau uchel hynny sydd eu hangen i’w cynorthwyo ar gyfer eu darpar swyddi.

Mae’r coleg yn rhan o Grŵp Llywio Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau Cymru (WRAP) fydd yn gweithio’n barhaus i gyrraedd targedau gostwng gwastraff lletygarwch a bwyd. Drwy gydweithio gyda WRAP Cymru i rwystro a rheoli gwastraff bydd y coleg yn parhau i ddefnyddio polisïau a gweithdrefnau gwyrdd i leihau eu ôl traed carbon.

Dywedodd Paul Davies, Cyfarwyddwr Ystadau’r coleg: “Mae Coleg y Cymoedd wedi ymroi i ddatblygu gwelliannau sy’n rhoi ystyriaeth i dair colofn cynaliadwyedd ar draws pob maes o fusnes y coleg. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio gyda WRAP Cymru a chefnogwyr eraill i gyflawni gwelliannau targedau gwastraff fel eu bod nhw’n cyrraedd dim gwastraff o gwbl. Roedd y targedau hyn yn cynnwys lleihau 5% ar y gwastraff bwyd a’r deunydd lapio bwyd erbyn diwedd 2015, a chynyddu’r raddfa y mae gwastraff bwyd a phapur lapio yn cael ei ailgylchu, ei anfon i’w dreulio’n anaerobig (AD) neu’n cael ei gompostio, i fod o leiaf yn 70% erbyn diwedd 2015.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau