Coleg yn lansio rhaglen fentora i rymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd

Mae coleg yn Ne Cymru wedi lansio rhaglen fentoriaeth newydd i ferched gyda’r nod o gefnogi a grymuso’r genhedlaeth nesaf o ferched ifanc i gyflawni eu potensial o ran addysg a gyrfa.

Mae Coleg y Cymoedd, sydd â phedwar campws yn Nantgarw, Ystrad Mynach, Aberdâr a’r Rhondda, wedi cyflwyno ei gynllun mentora yn swyddogol, yn dilyn peilot llwyddiannus dros ddwy flynedd.

Yn wreiddiol, treialwyd y rhaglen ar raddfa lai ond oherwydd ei llwyddiant gyda dysgwyr mae bellach yn rhaglen barhaol yn y coleg.

Mae’r rhaglen, a gynlluniwyd i hyfforddi a helpu dysgwyr benywaidd, traws ac anneuaidd i gyrraedd eu nodau personol a phroffesiynol, yn paru pob dysgwr â mentor yn seiliedig ar eu diddordebau gyrfaol neu’r sgiliau a ddymunir ganddynt.

Ar hyn o bryd mae gan y cynllun 21 o fentoriaid, pob un ohonynt yn fenywod hynod lwyddiannus ac uchel eu parch yn eu meysydd proffesiynol. Yn rhychwantu ystod o sectorau o’r gyfraith a marchnata i seicoleg, adeiladu a chyllid, ymhlith y mentoriaid ar y cynllun mae barnwr tribiwnlys, pensaer siartredig, cynhyrchydd gweithredol yn y BBC, a chyfarwyddwr BAFTA Cymru.

Fel rhan o’r rhaglen, mae dysgwyr yn cael cyfarfodydd un i un misol â’u mentoriaid – naill ai cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu gyfarfodydd rhith- lle maen nhw’n trafod eu dyheadau gyrfa a’u datblygiad personol, gan lunio cynllun gweithredu i gyflawni’r rhain. I’r rhai sy’n ansicr o’r hyn yr hoffent ei wneud ar ôl gadael y coleg, mae’r mentoriaid yn eu helpu i adnabod pa fath o yrfa neu bwnc y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn ei ddilyn.

Yn ogystal â rhannu eu profiadau a’u dysgu personol eu hunain, mae’r mentoriaid yn cefnogi dysgwyr i ennill profiad a sgiliau sy’n gysylltiedig â gyrfa, gan eu cyflwyno i gysylltiadau allweddol â’r diwydiant a’u helpu i sicrhau lleoliadau gwaith perthnasol.

Hefyd, maent wrth law i gynorthwyo gyda drafftio CVs a cheisiadau prifysgol, paratoi ar gyfer cyfweliadau, gwella hyder a gwella eu sgiliau cyflwyno.

Mae Megan Howells, 20 oed, yn un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd sydd wedi elwa o’r cynllun. Roedd Megan, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gweithio gyda’r mentor Sian Davies, barnwr cyflogaeth, yn ystod ei blwyddyn olaf yn y coleg.

Diolch i’r cynllun a chefnogaeth  y Barnwr Davies, enillodd Megan brofiad gwaith mewn nifer o gwmnïau cyfreithiol a llwyddodd fod yn bresennol mewn gwrandawiad tribiwnlys cyflogaeth, gan roi cipolwg iddi o amrywiol feysydd y gyfraith.

Meddai Megan: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cynllun mentora gan iddo roi cyfle amhrisiadwy imi ddatblygu fy sgiliau a fy niddordeb yn y gyfraith. Cyn dechrau’r cynllun, roeddwn yn teimlo ychydig ar goll ac yn ansicr ynghylch yr hyn yr oeddwn am ei wneud ar ôl y brifysgol ond rhoes gweithio gyda’r Barnwr Davies gyfoeth o brofiad imi mewn ystod eang o feysydd y gyfraith.

“Helpodd y cynllun i wella fy hyder, gwybodaeth, a sgiliau cyfreithiol, gan fy mharatoi’n well ar gyfer y brifysgol a fy ngyrfa yn y dyfodol. Rhoes yr adnoddau imi ddatblygu fy mherfformiad academaidd, a’r profiad ymarferol i’m cynorthwyo gyda phenderfyniadau yn y dyfodol. ”

Bu’r Barnwr Sian Davies, sy’n Farnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol, yn allweddol wrth sefydlu’r cynllun rhwydweithio yn y coleg ar ôl cysylltu â’r Pennaeth gyda’r syniad.

Meddai: “Rwy’n angerddol am ysbrydoli menywod i anelu’n uchel a chyflawni eu llawn botensial, a dyna pam roeddwn am fod yn rhan o gynllun fel hwn. Roeddwn am helpu menywod ifanc nad oes ganddynt fodel rôl broffesiynol, gan roi’r cyfle iddynt rwydweithio â menywod proffesiynol a chael profiad gwaith, a all fod yn anodd dod o hyd iddo os nad ydych yn adnabod y bobl iawn.

“Mae Megan yn unigolyn eithriadol sy’n mynd i fod yn gyfreithiwr gwych. Yn wreiddiol, nid oedd gan Megan gysylltiadau er mwyn cael profiad gwaith perthnasol, felly fe wnes i ei chynorthwyo i gael profiad mewn amrywiaeth o rolau ym maes y gyfraith.

“Mae’r cynllun yn fenter wych sy’n canolbwyntio ar rymuso menywod ifanc i lwyddo drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a maethlon iddynt ffynnu a gwella eu sgiliau. Rwy’n falch o chwarae rôl wrth helpu menywod ifanc i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Oes oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn bod yn fentor yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i: https://www.cymoedd.ac.uk/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau