Llunnir y cwrs er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ennill y sgiliau, y profiad a’r hyder priodol i wneud cais am swyddi perthnasol o fewn y diwydiannau creadigol a/neu i ddeall sut i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn eu busnes eu hunain ar ôl cwblhau’r cwrs.
Bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth drylwyr o hanes ffotograffiaeth a datblygiadau modern. Mae pwyslais cadarn ar yr ymarferol, gydag aseiniadau amrywiol a diddorol mewn ffoto-newyddiaduraeth, ffotograffiaeth rhaglenni dogfen, ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth stiwdio, ffotograffiaeth tirwedd, ffotograffiaeth fasnachol, dulliau celf gain o fynd ati ac arddulliau ffotograffig amgen. Ar ddiwedd y cwrs, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol: • Dod i ddeall ffotograffiaeth fel celfyddyd a/neu’n llwybr gyrfaol • Dysgu sut i ddefnyddio’r camera i’w botensial llawn h.y. gosodiadau â llaw a’r cyfarpar sydd ei angen at ddibenion penodol • Dod i ddeall sut i olygu delwedd a thechnegau ôl-gynhyrchu • Dod i wybod am hanes ffotograffiaeth a’i ddeall o safbwynt cyfoes •Datblygu cyfleoedd i gael gyrfa ym maes ffotograffiaeth • Gwneud cysylltiadau â'r diwydiant ffotograffig wrth ymgymryd â briffiau 'byw' a phrosiectau dysgu yn y gwaith. Nod y Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yw rhoi profiad addysgu a dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr sy'n berthnasol i'r diwydiannau creadigol ar gyfer ymarfer cyfoes. Mae'n bwysig bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth glir o hanes ffotograffiaeth a'u bod yn cydnabod sut i ddatblygu gwybodaeth benodol i'r pwnc sy'n briodol i gymhwyso Ffotograffiaeth a'r amgylchedd newidiol y mae'n gweithredu ynddo.
Ar gyfer mynediad bydd angen 48 o bwyntiau UCAS, mae hyn yn cyfateb i 2 Lefel A (gradd D neu uwch) neu Gymhwyster Lefel 3 BTEC gyda Theilyngdod/Pas ar gyfer Diploma Lefel 3, neu Pas/Pas/Pas ar gyfer Diploma Estynedig Lefel 3 neu gymhwyster perthnasol.
Asesir myfyrwyr drwy gwblhau gwaith cwrs yn seiliedig ar aseiniadau , ysgrifennu traethodau, cyflwyniadau, portffolio a gwaith ymarferol, cyfnodolyn adfyfyriol (ar-lein a chopi caled), adroddiadau a chyfranogiad a asesir mewn tasgau grwp. Sesiynau briffio ‘byw’ a gweithgareddau yn y gweithle. Pennir dedleins drwy gydol y flwyddyn. Bydd myfyrwyr yn derbyn manylion o ofynion asesiadau yn ystod pob modiwl gyda dedlein ar gyfer eu cyflwyno.Mae'r dyddiadau cau wedi'u gwasgaru ar hyd y flwyddyn. Bydd myfyrwyr yn derbyn manylion y gofynion asesu yn ystod pob modiwl gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.
Fel ffotograffydd proffesiynol, hunan-gyflogedig o bosibl, gallai myfyrwyr ddewis arbenigo mewn maes megis ffasiwn, hysbysebu, golygyddol, dogfennol, diwydiannol, gwyddonol a hyd yn oed ffotograffiaeth fforensig. Mae swyddi ar gael mewn busnesau creadigol, cyhoeddwyr ac asiantaethau ffotograffig neu ym maes addysg neu’r sector cyhoeddus – gallai’r rhain gynnwys curadur ffotograffiaeth, dosbarthwr ffotograffig neu ymchwilydd darluniau neu gynorthwy-ydd mewn stiwdio ffotograffiaeth.
Cynhelir y cwrs ar 2 ddiwrnod yr wythnos o 9am tan 4pm.
Bydd angen eich camera SLR Digidol eich hun arnoch chi (o ddewis gyda lensys ymgyfnewidiol) ar gyfer y cwrs hwn. Yn ogystal, bydd gofyn i chi brynu deunyddiau eraill megis: Cardiau cof, tripod, bag camera, gyrwyr USB, llyfrau braslunio/ffeiliau a phortffolio A3.
Gellir prynu rhai o'r deunyddiau hyn yn ein Siop Gelf am bris gostyngol i fyfyrwyr. Fel rhan o'r gofynion ar gyfer gwahanol Fodiwlau, bydd gofyn i chi hefyd brynu eich printiau eich hun. Bydd Arweinydd eich Modiwl yn eich cynghori ar y mannau gorau i gael eich ffotograffau wedi'u hargraffu.
Mae staff y cwrs Ffotograffiaeth Gradd Sylfaen yn annog dysgwyr i adeiladu eu proffil ffotograffig eu hunain trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau a rhannu eu gwaith dyddiol cyffredinol trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch ein cyfrifon cymdeithasol i weld ein harddangosfa o waith dysgwyr a'r wybodaeth gyffredinol o ddydd i ddydd:
Instagram: cyc photo nantgarw
Facebook: CYC Photography
Ni dderbynnir ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr tramor sydd heb fod o’r UE.
Gall ffioedd AU newid o dro i dro.
Gwybodaeth am UCAS a Chyllid Myfyrwyr Cymru
Cod y Cwrs Diwydiannau Creadigol (Ffotograffiaeth): W640
Cod y Sefydliad: W01
Information for UCAS and Student Finance Wales...
Creative Industries (Photography)
Course Code: W640
Institution Code: W01





