Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio: • Sillafu • Atalnodi • Gramadeg • Sgiliau siarad a gwrando • Darllen a dadansoddi gwahanol destunau • Ysgrifennu creadigol – ysgrifennu naratif a disgrifiadol • Ysgrifennu trafodol – yn cynnwys llythyron, adroddiadau, erthyglau, taflenni ac areithiau • Technegau sefyll arholiad
Lleiafswm gradd D ar lefel TGAU neu cewch wahoddiad i gael eich asesu gan aelod o'r tîm TGAU.
Bydd asesiad llafar a fydd yn cynnwys cyflwyniad 5-7 munud a thrafodaeth grwp 10 munud. Bydd hyn yn cyfateb i 20% o'r cwrs cyffredinol. Bydd dau arholiad hefyd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd sy'n cyfrif am 80% o'r cymhwyster. Fe'ch asesir trwy gydol y flwyddyn i fonitro'ch cynnydd.
Mae TGAU Saesneg yn gymhwyster defnyddiol iawn ac mae’n ofyniad sylfaenol gan lawer o gyrsiau. I fod yn athro mewn ysgolion cynradd neu uwchradd rhaid cael gradd B TGAU Saesneg.