Diploma Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (gydag Opsiynau Peirianneg Sifil) - Rhyddhad Diwrnod

Mae’r cwrs 2 flynedd hwn wedi’i lunio ar gyfer y rhai a hoffai ddilyn gyrfa ym meysydd technegol a phroffesiynol y diwydiant adeiladu, er enghraifft: Dylunio Pensaernïol, Cynnal a chadw adeiladau a syrfeo, Syrfëwr meintiau, Rheoli safle a Pheirianneg sifil.


Un nodwedd o'r cwrs ydy y gall dysgwyr ym mlwyddyn 2 arbenigo mewn Peirianneg Sifil neu Ddylunio Pensaernïol. Sylwer y bydd angen gradd B TGAU Mathemateg (Haen Uwch) ar ddysgwyr ar gyfer yr opsiwn peirianneg sifil.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod blwyddyn 1, mae Dysgwyr yn dilyn rhaglen gyffredin. Byddwch yn dod i ddeall egwyddorion sylfaenol dylunio a chodi adeiladau isel a chanolig a’u strwythur ac egwyddorion gweithredu’r dyluniadau hynny.


Hefyd, byddwch yn ystyried dulliau adeiladu a ddefnyddir i godi adeiladau newydd a’r gwaith allanol cysylltiedig. Ym mlwyddyn 2 mae dysgwyr yn ymchwilio i wahanol lwybrau gyrfaol er enghraifft. Dylunio pensaernïol, gwaith Syrfëwr meintiau, Rheoli Safle, Syrfeo Tir, Peirianneg sifil a Syrfeo maes peirianneg. Rhoddir pwyslais ar ennill sgiliau academaidd a chyflogadwyedd: megis sgiliau ymchwil, gwaith tîm a sgiliau cyflwyno sy’n rhan bwysig o’r cwrs.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 4 TGAU arnoch radd A*- B gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg. Hefyd byddwch yn mynychu cyfweliad ffurfiol ac yn sefyll asesiad cychwynnol a osodir gan coleg mewn llythrennedd a rhifedd.

Asesiad

Bydd dysgwyr yn cwblhau ystod o dasgau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau. Y graddfeydd a ddyfernir ar gyfer pob modiwl yn gyffredinol ydy Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Dilyniant Gyrfa

A dibynnu ar eich graddau yn gyffredinol bydd gennych ddewis o lwybrau dilyniant: Mynediad i raglenni gradd Prifysgol neu brentisiaethau gradd.

Nodiadau Pellach

Dylai dysgwyr brynu ‘cof bach allanol’ i’w ddefnyddio yn ystod y cwrs yn ogystal â chyfarpar lluniadu a chaiff hyn ei drafod yn ystod y cyfnod ymrestru. Yn ogystal, ar gyfer y cwrs hwn, mae gofyn prynu esgidiau blaen dur a llawlyfr y cwrs.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Rhan Amser Day
Dyddiad:07/09/2026
Dyddiau:Wednesday
Amser:09:00 - 19:30
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:05P301NA
Ffioedd
Materials Fee: £81
Registration Fee: £212
Tuition Fee: £873

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd