Yn haf 2016, bydd cwrs llwyddiannus mewn celf a dylunio yn trosglwyddo o Brifysgol De Cymru, Trefforest, i gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd.
Mae pob ochr o’r cwrs yn gyffrous gan ei fod yn dychwelyd i’w fan cychwyn, lle datblygodd enw eithriadol yn genedlaethol dros bymtheg mlynedd cyntaf ei fodolaeth. Bydd y cwrs, a’i staff llawn amser, yn symud i adeilad wedi gynllunio’n benodol ar gyfer y gwaith, gan sicrhau dilyniant o’r ddarpariaeth ardderchog gyflwynwyd dros y 25 mlynedd diwethaf.
Mae dysgwyr o Dde Cymru a thu hwnt wedi manteisio am amser maith ar y profiad amhrisiadwy o gael eu haddysg Sylfaen yn ardal Pontypridd, ac y mae ein perthynas gadarn gyda’n hysgolion cleient a’r darparwyr AU yn parhau’n rhan ganolog o’n meddylfryd.
Mae’r cwrs wedi bod yn gadarnle cyfle i ieuenctid y cymoedd, Caerdydd a thu hwnt, gan hyrwyddo dilyniant i astudio ar lefelau uwch a gyrfaoedd o fewn y diwydiannau creadigol. Mae’r staff addysgu’n edrych ymlaen at gyfnod o dwf deinamig ac arloesol, o fewn cwrs traddodiadol ond llawn gweledigaeth fydd yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu profiadau myfyrwyr a dysgwyr.
Mae Coleg y Cymoedd yn falch o gael y cyfle i ymestyn a hyrwyddo enw da’r cwrs eithriadol hwn ac i barhau â’r cyfraniad unigryw hwn i fywyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yn Ne Cymru.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Bydd yn gyffrous cael croesawu’r dysgwyr a’r staff Celf Sylfaen i’n plith ar Gampws Nantgarw ym Medi 2016. Bydd y rhaglen hon yn gwella’r amrediad o ddarpariaethau rydyn ni’n gallu’u cynnig i’n dysgwyr. Fe fyddan nhw’n cael eu haddysgu mewn adnodd newydd eithriadol gan ymarferwyr Addysg Bellach hynod brofiadol.â€
Dywedodd yr Athro Helen Langton, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: Rydw i’n hynod falch ein bod yn gallu cadarnhau ymhellach ein perthynas gref â’n partner strategol, Coleg y Cymoedd, drwy drosglwyddo’r cwrs celf sylfaen a pharhad y cyfleoedd dilyniant y bydd hyn yn ei gynnig i’n myfyrwyr.”
I ganfod rhagor am y cwrs rhagorol hwn, ewch i www.cymoedd.ac.uk/foundationdiplomaart
“