Cydnabod llwyddiannau dysgu mam ifanc

Cafodd grŵp o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd gychwyn bywiog ar eu hymweliad â Senedd San Steffan i gwrdd a’u Haelod Seneddol, Owen Smith, sy’n cynrychioli Pontypridd.

Yn dilyn taith drwy ddau Dy’r Senedd, cyfarfu Mr Smith â’r dysgwyr ac egluro ei swyddogaeth yn y Senedd cyn eu gwahodd i’w holi, gan ddenu nifer o gwestiynau am bynciau am ei etholaeth.

Yn ôl Alisha Kelly, 17 oed, un o’r Dysgwyr pwnc Busnes: ar gampws Nantgarw: Fwynheais i’r daith o gwmpas, roedd y tywysydd yn hynod ddiddorol ac yn adrodd hanes yr adeilad ac egluro ble roedd gwahanol gyfarfodydd a dadleuon yn digwydd. Fuon ni’n trafod agweddau o wleidyddiaeth yn y coleg ac roedd hyn yn help i roi rôl yr A.S.yn ei gyd-destun.”

Yn ystod yr ymweliad, bu’r dysgwyr yn ddigon ffodus i gwrdd â Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda, tra roedd e rhwng dau gyfarfod arall. Bu Mr Bryant yn holi’r dysgywr am eu hymweliad a sut roedd hyn yn clymu â’u hastudiaethau yn y coleg.

Ar ôl gadael San Steffan, aeth y dysgwyr wedyn i Senedd Ewrop lle buon nhw’n rhan o nifer o ymarferion am yr Undeb Ewropeaidd. Roedden nhw’n canfod hyn eto’n werthfawr gan ei fod yn eu goleuo ymhellach am swyddogaeth Senedd Ewrop ac effeithiau positif yr Undeb Ewropeaidd ar bawb.

Yn ôl eu Tiwtor Busnes, Steve Andrews, oedd yn teithio gyda’r myfyrwyr: “Mae’n bwysig, os ydyn ni am i’n pobl ifanc fod yn rhan o weithgareddau lleol, ein bod yn rhoi golwg iddyn nhw am waith gwleidyddion, o Gynghorwyr lleol, i Aelodau’r Cynulliad yn Llywodraeth Cymru hyd at AS’au yn San Steffan. Does dim ffordd well o wneud nag ymweld â’r sefydliadau hyn i’w gweld nhw wrth eu gwaith ac i siarad â’r rhai sydd wrth y gwaith. Roedd yn ddiwrnod gwerth chweil ac fe fwynhaodd y myfyrwyr y daith. Roeddd yn gyfle gwych iddyn nhw ymweld â ThÅ·’r Cyffredin ac i lawer ohonyn nhw gael cwrdd â’u haelod seneddol. Wrth edrych yn ôl ar y daith, roedd y dysgwyr o’r farn mai’r rhan orau oedd cwrdd ag Owen Smith, AS. Roedd yn llawn help, yn ystyriol ac roedd ganddo wir ddiddordeb yn eu barn. Roedd ganddyn nhw amrywiaeth o gwestiynau, gan gynnwys Pam na allwn ni bleidliesio’n 16 oed? Oedd e’n credu ei fod yn cael gormod o dâl? Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud ynglÅ·n â’r sefyllfa yn Yr Iwcrain? A hefyd Beth mae e’n ei wneud am faterion lleol megis y datblygiad canolfan siopio ym Mhontypridd a sefydlu 5ed canolfan rygbi ym Mhontypridd.

I orffen eu hymweliad, fe gawson nhw weld rhai o atyniadau Llundain, gan gynnwys Palas Buckingham, Sgwâr Trafalgar, Stryd Downing a llawer mwy. Barn yr holl ddysgwyr oedd fod y profiad wedi cynyddu eu diddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau