Cydnabod myfyriwr chwaraeon o Goleg y Cymoedd am Gynhwysiad ac Amrywiaeth

Mae Jayne Ludlow, pennaeth y tîm rhyngwladol, yn hyderus y bydd pêldroed merched yn elwa o bartneriaeth newydd gyda Choleg y Cymoedd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymuno â champws Ystrad Mynach er mwyn lansio academi pêl-droed elît merched. Gyda’r garfan gyntaf yn cychwyn fis Medi nesaf yng Ngholeg y Cymoedd, bydd y merched yn gallu cyfuno sesiynau hyfforddi dyddiol ag astudio llawn amser.

Roedd y prosiect yn nod allweddol i Jayne Ludlow fel Pennaeth Academi Pêl-Droed Cymru sy’n gobeithio y bydd yr academi yn darparu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rhyngwladol dros Gymru. Mae’r fenteryn rhoi blas i ddysgwyr o’r hyn sydd ei angen i ddatblygu’n aelod proffesiynol o glwb yn ogystal â hyrwyddo’u haddysg.

Dywedodd Jayne Ludlow, cyn gapten merched Arsenal: “Fe wnes i adduned i sefydlu amgylcheddau pêl-droed merched a fyddai’n galluogi ein chwaraewyr iau i ragori a datblygu i’w llawn potensial. Academi pêldroed merched ydy hon wedi’i sefydlu yng Ngholeg y Cymoedd ac yma bydd ein grŵp elît o ferched rhwng 16 ac 18 oed yn cael eu lleoli, yn astudio llawn amser a hyfforddi llawn amser ac mae hyn yn ddelfrydol i’w helpu i gyrraedd a gwireddu eu potensial.

Byddan nhw’n cael eu hyfforddi gan staff sydd ar hyn obryd ar ein llwybrau a’r cynllun ydy creu amgylchedd elît a fydd yn symbylu ein chwaraewyr iau i gystadlu ar y lefel uchaf yn y dyfodol. Mae’n broses hir-dymor o ystyried ond gorau po gynta i gychwyn arni go iawn gyda merched o’r oed priodol.”

Lleoliad yn y Cymoedd oedd y dewis ar gyfer yr academi o gofio pa mor boblogaidd mae chwaraeon yn yr ardal gyfagos. Gobaith Academi Pêl-droed Cymru ydy y bydd y rhaglen newydd yn darparu llwybr ar gyfer merched i ddatblygu ar y maes ac oddi arno mewn awyrgylch cystadleuol.

Dywedodd Jonathan Morgan,Cyfarwyddwr Cyfadran Chwaraeon Coleg y Cymoedd: ”Roedd y cyfleusterau gwych sydd gan Goleg y Cymoedd ar gyfer chwareon yn gwneud y bartneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru yn fenter gyffrous.

“O safbwynt y coleg, mae’n gysylltiad rydyn ni wedi bod yn awyddus i’w sefydlu. Mae sawl enghraifft o’r modd y mae hyn yn gweithio ar hyd a lled y wlad. Soniodd Jayne pa mor dda mae’r model hwn wedi gweithio gyda Merched Arsenal ers nifer o flynyddoedd.

Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn. Bydd yn gweddu’n berffaith i ni fel coleg ac rydyn ni am greu cysylltiadau gyda chyflogwyr a fydd yn gallu gweld llwybr da i mewn i’r gêm broffesiynol ar gyfer chwaraewyr. Mae’n gyfle prerffaith.“

Am ragor o wybodaeth ar sut i ymuno â’r Academi Elît Pêl-Droed: www.cymoedd.ac.uk/courses/subject-areas/sport.aspx?lang=cy

I fod yn Deulu sy’n Lletya: www.cymoedd.ac.uk/international/host-families.aspx?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau