Cydnabod staff y Cymoedd am wella eu Sgiliau Cymraeg

Mae staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd wedi cael eu hysbrydoli i wella eu sgiliau Cymraeg gan y prosiect Gwaith Cymraeg, a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r prosiect, sydd bellach yn ei ail flwyddyn yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus yn 2017-2018, wedi gweld dros 250 o staff yn y Sector Addysg Bellach yn elwa o brosiect eleni.

Er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn colegau, gosododd ColegauCymru darged heriol o sicrhau bod o leiaf 80% o’r staff dan sylw yn staff academaidd, gan y byddai hyn yn cael effaith uniongyrchol ar iaith yr ystafell ddosbarth.

Calonogwyd Coleg y Cymoedd eleni gan gynnydd mewn cyfranogiad gan ei staff, yn 2017-18 cwblhaodd 8 aelod o staff o Goleg y Cymoedd y cynllun Cymraeg Gwaith, tra bo 16 aelod o staff wedi ymuno â phrosiect 2018. Roedd saith o’r garfan lwyddiannus yn aelodau o staff yr Adran Gofal, a oedd yn fuddiol gan ei fod yn golygu y gallent gydweithio a chefnogi ei gilydd fel tîm.

Daeth tiwtor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg y Cymoedd, Alison Williams, yn ail yn y categori ar gyfer y cynnydd gorau ar lefel Mynediad / Sylfaen, un o’r categorïau mwyaf brwd gyda dros 15 o geisiadau. Yn derbyn ei thystysgrif, dywedodd Alison: “Cyn dechrau’r cwrs, roeddwn yn teimlo mai ychydig iawn o Gymraeg oedd gennyf. Fodd bynnag, mae dysgu ar y cwrs Cymraeg Gwaith mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar wedi fy ngalluogi i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg gyda’m dysgwyr yn ogystal â mwynhau’r profiad fy hun ”.

Yn y llun: Alison Williams yn derbyn ei thystysgrif gan Bennaeth Datblygiadau’r Iaith Gymraeg, Alison Jones gyda rhai aelodau o Grŵp Hybu’r Gymraeg y coleg.

Dywedodd Alison Kitson, ei thiwtor balch ‘”Rwyf mor falch o ymdrechion a chyflawniadau Alison wrth ddysgu Cymraeg ar y cwrs Cymraeg Gwaith. Mae mynd o allu dweud dim ond ” Bore Da “, i allu siarad â’i dysgwyr Cymraeg a rhoi adborth llafar ac ysgrifenedig yn ddwyieithog ar eu gwaith, mewn 7 mis, yn waith anferthol. Mae ymrwymiad Alison i’r Gymraeg heb ei ail.”

Yn y llun: Alison gyda’r tiwtor Cymraeg Gwaith, Alison Kitson, a gyflwynodd y wobr ac Alison Jones, Pennaeth Datblygiadau’r Iaith Gymraeg.

Dywedodd Alison Jones, Pennaeth Datblygiadau Iaith Gymraeg yn y Coleg “Mae Coleg y Cymoedd yn falch iawn o fod yn rhan o gynllun Cymraeg Gwaith eto eleni. Mae llwyddiant Alison o ran mewnosod y Gymraeg i’w gwersi yn fuddiol i’w dysgwyr, gan ysbrydoli ei chydweithwyr ac yn brawf o lwyddiant y cynllun. Mae’r coleg yn falch o’r holl staff a gwblhaodd y cwrs ac edrychwn ymlaen at barhau i gynnig yr hyfforddiant rhagorol hwn yn 2019-20.

Wrth ystyried y dysgwyr llwyddiannus, dywedodd Nia Brodrick, cydlynydd y prosiect Cymraeg Gwaith yn y sector Addysg Bellach, “Rydyn ni’n falch iawn i gael y cyfle i wobrwyo unigolion ac adrannau sydd wedi dangos cymaint o ymroddiad i’r cynllun Cymraeg Gwaith ac at ddysgu Cymraeg. Mae’r unigolion sydd wedi dod i’r brig yn eu categorïau wedi gwneud y mwya’ o bob cyfle i ymarfer a datblygu eu sgiliau Cymraeg newydd gan ysbrydoli eu myfyrwyr a’u cydweithwyr yn y cyfamser. Dylai’r Colegau fod yn falch iawn o frwdfrydedd y dysgwyr yma a diolch yn fawr i’r tiwtoriaid iaith am eu holl waith yn ystod y flwyddyn”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau