Cyflogwyr ariannol mawrion yn mynd i Goleg y Cymoedd i gynnig cipolwg ar yrfa ym maes cyllid

Cynhaliwyd ffair yrfaoedd tra gwahanol ar gyfer myfyrwyr ac oedolion 16 ac yn hÅ·n yn RhCT sy’n chwilio am gyfle i ddysgu mwy am yrfaoedd ym maes cyllid.

Roedd y ffair, a gynhaliwyd ddoe gan Goleg y Cymoedd yn ei gampws yn Nantgarw, yn cynnig y cyfle i ddysgwyr ac aelodau o’r cyhoedd ddysgu am rolau posibl o fewn y maes cyllid a chlywed am brentisiaethau, lleoliadau gwaith a chymwysterau sydd ar gael o fewn y sector.

Roedd sefydliadau sy’n arwain y diwydiant, gan gynnwys Legal and General, Lloyds Banking Group, Deloitte a GM Financial yn bresennol ar y diwrnod, ochr yn ochr â darparwyr academaidd allweddol a chyrff dyfarnu megis Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Sefydliad Siartredig dros Warantau a Buddsoddiadau (CISI) i gynnig eu cyngor, ateb unrhyw gwestiynau a thynnu sylw at unrhyw gyfleoedd gyrfa o fewn eu sefydliadau. Cafodd fynychwyr y cyfle hefyd i elwa o nifer o sgyrsiau gan ffigurau’r diwydiant a darlithwyr a fu’n sôn am lwybrau i mewn i’r maes cyllid.

Yn ogystal â chynnig cyngor ar lwybrau i mewn i gyllid, roedd y digwyddiad hefyd yn ceisio newid canfyddiadau am sut beth yw gyrfa ym maes cyllid, a chwalu mythau mai dim ond y rheiny â set sgiliau penodol all ddilyn gyrfa yn y diwydiant.

Meddai Kim Purnell, Darlithydd Busnes yng Ngholeg y Cymoedd: Yn aml, mae dryswch ynglÅ·n â’r hyn y mae’r gwasanaethau ariannol yn ei wneud mewn gwirionedd. Yn aml, mae pobl yn dweud nad ydynt yn gallu dilyn gyrfa yn y diwydiant gan nad ydynt yn dda mewn mathemateg neu’n tybio bod rolau wedi’u cyfyngu i fod yn gyfrifydd pan, mewn gwirionedd, nid yw hynny’n wir. Tra bo mathemateg, wrth gwrs, yn bwysig ar gyfer rhai swyddi, mae digon o lwybrau gyrfaol eraill sydd ar gael o fewn y sector. O weithio fel cyfrifydd i weithio yn adran Adnoddau Dynol neu farchnata sefydliad ariannol, beth bynnag yw eich sgiliau gallai fod rôl i chi. “

Daw’r ffair yn sgil gwaith y Coleg y Cymoedd gyda chyflogwyr ariannol lleol i ddatblygu Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Busnes a Gwasanaethau Ariannol ac mewn ymateb i adborth eu bod yn cael anhawster recriwtio er gwaethaf y ffaith fod digonedd o ymgeiswyr ar gael.

Crëwyd y cwrs newydd, a fydd yn cael i gynnal gan Kim a’i chyd-ddarlithydd busnes yn y coleg Al Koursaros, gan y ddau ddarlithiwr sydd wedi treulio’r flwyddyn academaidd ddiwethaf ar secondiad yn gweithio gyda sefydliadau ariannol i benderfynu am beth y mae busnesau’n chwilio gan ddarpar weithwyr er mwyn datblygu cwrs wedi’i deilwra at wir anghenion ac arferion y diwydiant.

Meddai Al: “Ar hyn o bryd mae gan y gwasanaethau ariannol ddigon o gyfleoedd cyflogaeth ond er gwaethaf hyn, rydym yn clywed yn gyson gan gyflogwyr yn y sector, ac yn arbennig yn lleol yn Ne Cymru, eu bod yn cael anhawster dod o hyd i ymgeiswyr addas. Yn syml, yn anffodus nid yw argaeledd sgiliau perthnasol yn cyfateb i’r galw. Mae uwchraddio setiau sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer y diwydiant ariannol yn awr yn flaenoriaeth y Llywodraeth ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i’w helpu yn y coleg. “

Dywedodd Sandie Dunn, Rheolwr Datblygu Pobl yn Legal and General: “Nid oes dim yn bwysicach na datblygu’r genhedlaeth nesaf, a fydd yn helpu i yrru llwyddiant y sector ariannol yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Choleg y Cymoedd i helpu llunio’r dyfodol. “

Mae’r cwrs, a ddatblygwyd yn agos gydag Agored Cymru ac sydd gyfwerth â thair Safon Uwch mewn un flwyddyn, wedi ei anelu at ddysgwyr ac unigolion sydd â phrofiadau bywyd a hoffai newid gyrfa, mynd i’r brifysgol neu i swydd ym maes cyllid neu’r sector gwasanaethau ariannol, ond nid oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i wneud hynny o reidrwydd.

Dywedodd Victor Morgan, Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch yn Agored Cymru, “Datblygwyd Diploma Mynediad i AU mewn Busnes a Gwasanaethau Ariannol Agored Cymru gyda Choleg y Cymoedd er mwyn darparu cyfleoedd i oedolion ddilyn gyrfaoedd yn y sector ariannol sy’n tyfu yng Nghymru.

“Mae’r Diploma wedi’i gynllunio’n benodol i gefnogi datblygu gwybodaeth arbenigol a chaffael sgiliau academaidd perthnasol a all wella sgiliau a hyder unigolion sy’n paratoi ar gyfer y brifysgol. Mae’n darparu sylfaen lle gall dysgwyr nodi meysydd penodol sydd o ddiddordeb iddynt a phlotio eu cynnydd tuag at ganlyniad galwedigaethol clir o fewn y sector. Rydym

yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Choleg y Cymoedd i ddatblygu cymhwyster newydd a chyffrous, ac rydym yn hyderus y bydd yn cwrdd ag anghenion maes sy’n tyfu yng Nghymru yn llwyddiannus. “

Bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal cyfres o ddiwrnodau agored ar draws ei holl gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda Cynon Taf ac Ystrad Mynach. Bydd y diwrnod agored nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 24 Mai 4:00-7:00 pm.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau