Mae Jacob Lewis, 22, o Gaerdydd a siaradodd mewn cynhadledd yn ddiweddar ar gyfer rhai uchel eu cyflawniad wedi cynhyrchu fideos adolygu ar gyfer disgyblion Lefel A.
Mae’r cyn-fyfyriwr a gafodd 3 A* wedi cwblhau ei dymor cyntaf ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Nawr, mae Jacob Lewis, a enillodd bedwar Lefel A* gan gynnwys 100% yn y gyfraith a hanes, er gwaethaf gorfod cysgu ar soffa yn nhŷ ffrindiau, â’i fryd ar helpu eraill.
Mae wedi cynhyrchu cyfres o fideos adolygu i helpu myfyrywr Lefel A – i’w helpu i baratoi ar gyfer eu harholiadau.
Dywedodd: “Gwelais gymaint o fyfyrwyr y llynedd yn yr arholiadau â’u pennau ar eu desg o fewn 10 munud neu’n gadael hanner ffordd drwy’r arholiad. Dyma beth hoffwn i osgoi i ddigwydd yr haf nesa. Gobeithio bydd y fideos hyn yn fodd i wella canlyniadau.â€
Mae Jacob sy’n 22 oed, ac yn dod o Gaerdydd, newydd gwblhau ei dymor cyntaf yn astudio’r gyfraith yn Hughes Hall – coleg ar gyfer myfyrwyr hŷn ac ôl-raddedigion.
Mae Jacob, a fagwyd ar stâd cyngor yn Llaneirwg, yn cyfaddef bod y gwaith yn “eithriadol o anoddâ€, ond ei fod yn dal ei dir.
Ychwanegodd: “Mae pawb wedi bod mor garedig a ddim mor grachaidd ag y mae rhai’n ei dybio, mae’r myfyrwyr a’r athrawon yn fodau dynol hefyd.â€
Penderfynodd Jacob astudio yng Ngholeg y Cymoedd ar gyfer ei Lefel A ar ôl gadael yr ysgol yn 17 oed i gael swydd.
Nawr, ei obaith yw ysbrydoli mwy o fyfyrwyr o Gymru i wneud cais am le yn y prifysgolion blaenaf. Dywedodd Jacob: “Dysgais lawer yn ystod fy nghwrs Lefel A – nid dim ond ffeithiau ond hefyd sut i fynd i’r afael â chwestiynau. Dw i’n credu ei fod o help i fyfyrwyr wrando ar rywun sydd wedi sefyll yr arholiad yn ddiweddar a dw i mewn sefyllfa dda i allu rhannu’r wybodaeth honno.â€
Ar hyn o bryd mae’n recordio ac yn golygu’r fideos ac yn eu rhoi ar YouTube, felly maen nhw ar gael am ddim.
Bydd y fideos yn canolbwyntio ar y gyfraith a hanes a phob un yn para tua 10 munud, gan gynnwys ffeithiau allweddol ac awgrymiadau sut i fynd i’r afael ag arholiadau.
“Mae digon o fyfyrwyr yn darllen ac ail-ddarllen eu llyfrau ond yn methu â chofio’r ffeithiauâ€, dywedodd.
“Rydych chi’n mynd yn eirddall ac erbyn diwedd y flwyddyn mae’ch ffeil mor drwchus does dim syniad gyda chi ar beth i ganolbwyntio.
“Ni fydd y fideos hyn yn disodli’r gwaith darllen a llunio atebion i gyn-bapurau y bydd rhaid i chi ei wneud, ond byddan nhw’n helpu i wneud y dull o adolygu’n haws.
Bwriad Jacob ydy cwblhau’r fideos cyn bod y tymor yn cychwyn ym mis Ionawr a sefydlu tudalen codi arian i ddatblygu’r prosiect.
Yr haf nesaf, mae’n gobeithio ymestyn amrediad y pynciau a chael help proffesiynol gyda’r golygu.
Cewch hyd i fideos adolygu Jacob ar YouTube drwy chwilio am “the people’s lawyer does”.
“