Cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd yn esgyn i yrfa lwyddiannus yn y diwydiant Awyrennu

Llwyddodd cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd, Arjundeep Singh o Gaerdydd, i drechu cystadleuaeth gref yn seremoni Gwobrau Clwb Busnes Caerffili eleni, ac ennill y teitl mawreddog ‘Prentis y Flwyddyn’.

Mynychodd Arjundeep, sy’n un ar hugain oed ac yn dod o Gaerdydd, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac o oedran ifanc roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn peirianneg. Y pynciau a ddewisodd ar gyfer TGAU oedd Mathemateg, Gwyddoniaeth Driphlyg, Peirianneg a Dylunio Cynnyrch; dewis rhagorol er mwyn dilyn gyrfa y myd peirianneg.

Roedd yn ffodus y sylwodd ei athrawon ar ei ddiddordeb mewn peirianneg yn ystod ei flynyddoedd ysgol. Cydweithiodd ei athrawon â’r adran bersonél yn British Airways Interior Engineering er mwyn rhoi cyfle i Arjundeep dreulio diwrnod yn y sefydliad. A dyna le cychwynnodd ei daith gyda nhw!

Yn awyddus i ddilyn cwrs yr oedd yn angerddol yn ei gylch, mynychodd Arjundeep Ddigwyddiad Agored ar Gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd. Cafodd ei blesio gan y cyfleusterau a’r staff gwybodus felly cofrestrodd ar gwrs Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol, ochr yn ochr â chymhwyster Lefel 3 NVQ Seiliedig ar Waith.

Wrth siarad am ei astudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, dywedodd Arjundeep “Wrth astudio efallai y byddwch yn teimlo nad oes gennych lawer o amser i wneud pethau eraill neu ei fod yn anodd, ond er hynny, mae’r holl waith caled yn talu ar ei ganfed. Yn ystod fy nghwrs, roeddwn bob amser yn cael y gefnogaeth yr oeddwn ei hangen. Gwnaeth y tiwtoriaid y darlithoedd yn ddiddorol a alluogodd imi amsugno’r wybodaeth a’i chymhwyso yn fy ngweithle – gan fy rhoi mewn sefyllfa dda i sicrhau cyflogaeth ar ddiwedd fy mhrentisiaeth.

Byddwn yn bendant yn argymell Coleg y Cymoedd i ddysgwyr y dyfodol gan fy mod yn teimlo ei fod yn rhoi cychwyn da i chi, oherwydd unigrywiaeth ac ansawdd y coleg. Mwynheais y cwrs gan ei fod yn mynd i ddyfnder yn y maes peirianneg heb wneud ichi deimlo eich bod wedi cael eich gorlwytho â gwaith. Roedd agwedd ymarferol y cwrs hefyd yn wych gyda’r offer a’r peiriannau diweddaraf. Roedd yn caniatáu ichi ddysgu sut brofiad yw gweithio yn y maes ac yn gwneud ichi edrych ymlaen at gael swydd yn gwneud hyn ac yn eich annog yn fwy i gael graddau da ”.

Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth yn British Airways Interior Engineering, sicrhaodd Arjundeep gyflogaeth amser llawn yn y cwmni. O fewn ei fis cyntaf hysbysebwyd cyfle i weithio yn y Tîm Deunyddiau, gwnaeth gais ac roedd yn llwyddiannus. Cafodd Arjundeep ei secondio i’r adran, lle mae’n delio â chyllid a’r gadwyn gyflenwi ym maes peirianneg. Mae’n mwynhau’r rôl hon ac yn edrych tuag at ei ddyfodol. Mae’n teimlo mai dyma’r maes yr hoffai weithio ynddo o bosibl.

Dywedodd Stephen Manning, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith NVQ (Awyrennu/Peirianneg) yng Ngholeg y Cymoedd a roes gefnogaeth i Arjundeep tra oedd yn y coleg. ”Dyma oedd yr amser anoddaf i unrhyw brentis ond roedd Arjundeep yn parhau i fod yn llawn ffocws ac ymroddiad,  sy’n anhygoel i rywun mor ifanc. Mae Arjundeep wedi dangos aeddfedrwydd ac agwedd benderfynol y tu hwnt i’w oed. Bydd y profiad hwn yn ei roi mewn sefyllfa dda wrth iddo gychwyn ar ei rôl newydd gyda’r Tîm Deunyddiau ar gyfer British Airways. Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gydag ef, a gwn y bydd ei gydweithwyr newydd yn mwynhau ei wylio yn datblygu ymhellach. Fodd bynnag, yn goron ar y cyfan oedd ennill Prentis y Flwyddyn Clwb Busnes Caerffili 2021. Roedd gweld y balchder amlwg ar wyneb Arjundeep ac wynebau aelodau ei deulu yn atgof i’w drysori’n wir. ”

Wrth longyfarch Arjundeep ar ei lwyddiant yn y seremoni wobrwyo ychwanegodd Sarah-Jane Worley, Pennaeth Gweithrediadau British Airways Interior Engineering “Mae Deep wedi bod yn rhan annatod o’n tîm o ddiwrnod cyntaf ei brentisiaeth. Mae wedi bachu pob cyfle gyda’i ddwy law ac wedi sicrhau canlyniad gwirioneddol broffesiynol. Yn ystod ymweliad gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, fe gynrychiolodd ein cyfleuster a siarad yn hyderus a chyda gwir angerdd am y gwaith rydym ni’n ei wneud. Mae gen i bob hyder mai dim ond dechrau ei daith yn British Airways yw hyn. Rwyf i a gweddill ei gydweithwyr yn edrych ymlaen at weld i le y bydd ei lwybr yn ei arwain yn y dyfodol. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau