Pan gwblhaodd Abi Markey ei chyrsiau Safon Uwch a mynychu diwrnod Agored yng Ngholeg y Cymoedd, ni allai fod wedi credu’r llwybr gyrfa oedd o’i blaen.
Ar ôl cwblhau ei chyrsiau Safon Uwch yn yr ysgol, cofrestrodd Abi ar gwrs Therapi Harddwch Lefel 2 ar gampws y Rhondda ac ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel 2 aeth ymlaen i’r astudio’r cwrs Sba a Gofal Cwsmeriaid Lefel 3 ar gampws Nantgarw.
Wedi iddi ennill y cymwysterau academaidd bu Abi yn gweithio am gyfnod yn sba Gwesty The Vale, ac yn Nailsinc yn Debenhams a House of Fraser; gan ennill profiad rhagorol. Rhoes y profiad ymarferol, ynghyd â’i chymhwyster CIM y brwdfrydedd a’r penderfyniad iddi sefydlu ei busnes ei hun – gan ganolbwyntio ar y triniaethau ewinedd.
Sefydlwyd Nailedit Beauty yn 2017 gan y cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd 27 oed o Donypandy. Lleolir y busnes mewn tÅ· haf bychan yng nghefn ei chartref. Tyfodd nifer y cleientiaid yn rheolaidd a throdd yn swydd llawn amser iddi.
Â
Wrth siarad am ei thaith fentrus dywedodd Abi, “Byddwn yn bendant yn argymell astudio yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r staff mor gefnogol ac mae ganddynt gyfoeth o brofiad o weithio yn y diwydiant. Roedd y sgiliau a’r hyder a gefais yn ystod fy nghyfnod yn y coleg yn aruthrol.
Â
Hoffwn ddweud ‘diolch yn fawr’ i bawb – dathlodd fy musnes ‘Nailedit’ ei ben-blwydd yn 3 oed yn ddiweddar a hefyd rydw i wedi cyrraedd rhestr fer Technegydd Ewinedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru 2020, a gynhelir yn ddiweddarach eleni – Rhagor maes o law!!
“