Mae William Heal, dysgwr Coleg y Cymoedd, wedi sicrhau lle yn y sefydliad celfyddydau perfformio mawreddog Italia Conti Academy of Theatre Arts yn Llundain.
Pan gofrestrodd William (21) o Bontypridd ar Ddiploma BTEC Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio ar gampws y Rhondda Coleg y Cymoedd yn 2014, ni allai fod wedi dychmygu pa gyfleoedd cyffrous oedd o’i flaen.
Yn ystod ei gwrs, cafodd William y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau perfformio yn y coleg ac mewn theatrau go iawn; gan roi’r cyfle iddo ddatblygu ei sgiliau er mwyn paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Aeth yn ei flaen i astudio Diploma Estynedig Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd ac ar ôl cwblhau’r cwrs hwn ymgeisiodd i Italia Conti Academy of Theatre Arts. Bu’n llwyddiannus ac enillodd fwrsariaeth. Ym mis Medi, bydd William yn astudio ar y Rhaglen BA (Anrh) Theatr Gerddorol yn y theatr yn Llundain.
Dywedodd tiwtor y cwrs, Jaye Lawrence “O ddechrau’r cwrs, roedd William yn fyfyriwr rhagorol a ymgynefinodd yn wych â bywyd coleg. Bob amser yn ymdrechu i wella mewn astudiaethau ymarferol ac academaidd, dangosodd foeseg waith a disgyblaeth a oedd yn gosod esiampl wych i’w gyfoedion a’i gyd-fyfyrwyr.
Roedd talentau perfformio amrywiol William yn glir ac ymhlith rolau eraill, chwaraeodd Billy Flynn yn y cynhyrchiad diwedd blwyddyn Chicago; rôl deitl y cynhyrchiad coleg Titus Andronicus ac roedd yn rhan o berfformiad cyntaf Coleg y Cymoedd mewn cynhyrchiad Gŵyl Ysgolion Shakespeare o Macbeth; a wahoddwyd i berfformio yn y West End.
Mae adran y Celfyddydau Perfformio, staff a chyd-ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn hynod falch o lwyddiannau William ac yn dymuno pob llwyddiant iddo wrth iddo wynebu’r heriau perfformio, cymdeithasol ac academaidd newydd yn yr Italia Conti Academy â€.
Wrth siarad am ei ddyfodol, dywedodd William “Heb y gefnogaeth gyson gan fy nhiwtoriaid, Jaye Adrienne Lawrence, Jo Hodges a Rachel Thomas, ni fyddwn lle rydw i heddiw. Mae’r tiwtoriaid hyn, ynghyd â’r holl bobl sy’n gysylltiedig â’r cwrs BTEC Celfyddydau Perfformio, wedi rhoi cyfleoedd anhygoel imi, llawer o atgofion ac wedi dysgu cymaint o bethau imi. Rwyf mor ddiolchgar am bopeth rydw i wedi’i ddysgu yng Ngholeg y Cymoedd. Rwy’n hapus i gario enw ac enw da’r coleg gyda mi ble bynnag yr af yn y dyfodol â€.
Â
Mae Cymoedd yn dal i dderbyn ceisiadau i ymuno â chyrsiau ar gyfer mis Medi 2019. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.cymoedd.ac.uk