Cyn-fyfyriwr y Cymoedd yn rhannu profiad Rhydychen

Croesawodd dysgwyr Safon Uwch presennol sy’n astudio ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd gyn-ddysgwr Safon Uwch yn ôl i’r campws yr wythnos hon i rannu ei phrofiadau o astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.

Astudiodd Megan Howells (19), yn y Ganolfan Safon Uwch ac yn 2017 enillodd y graddau rhagorol A * A * A yn y Saesneg, y Gyfraith a Hanes i sicrhau lle yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, lle mae’n astudio’r Gyfraith ar hyn o bryd.

Roedd Megan wedi ymuno â Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr y coleg, rhwydwaith lle mae aelodau’n gwirfoddoli i ymweld â’r coleg i siarad â dysgwyr cyfredol, i gyflwyno seminarau, ac i ymddangos fel siaradwyr gwadd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Dywedodd Megan, “Roedd yn wych dychwelyd i’r coleg a rhannu fy nhaith ddysgu gyda’r dysgwyr Safon Uwch. Roeddent yn awyddus i ddarganfod sut roeddwn i wedi rheoli gwaith cwrs ac adolygu ar gyfer fy Safon Uwch.Hefyd, holwyd cwestiynau am astudio a bywyd ym Mhrifysgol Rhydychen. Roeddwn yn awyddus iddynt sylweddoli, nad oeddwn wedi ystyried astudio yn Rhydychen pan ddechreuais fy Safon Uwch, ond gyda llawer o waith caled a chefnogaeth gan fy nheulu a’m tiwtoriaid, dyma fi heddiw! Rwy’n gobeithio bod fy ymweliad wedi rhoi awgrymiadau iddynt ar gyfer eu hastudiaethau a hefyd wedi’u ysbrydoli i gredu ynddynt eu hunain a mynd amdani! Dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. Rydw i wrth fy modd fy mod wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r coleg a helpodd fi i wireddu fy nodau wrth ymuno â Chyn-fyfyrwyr Cymoedd.”

Dywedodd Ian Rees, Cyfarwyddwr Safon Uwch, “Yn sicr, roedd brwdfrydedd Megan am ei hastudiaethau yn y coleg a Rhydychen wedi ennyn diddordeb y dysgwyr presennol, a holodd amrywiaeth o gwestiynau perthnasol ynghylch sut i baratoi ar gyfer arholiadau a sut roedd Megan wedi ymdopi â’r newid o Gymoedd De Cymru i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae Megan yn llysgennad gwych ar gyfer y coleg ac yn fodel rôl ysbrydoledig i’n dysgwyr Safon Uwch, gan ddangos iddynt yr hyn y gallant hwy hefyd, anelu at ei gyflawni”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau